Eluned Morgan ddim wedi cynnal safonau uchel - Drakeford

  • Cyhoeddwyd
Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan wedi ei gwahardd rhag gyrru ar ôl ei chael yn euog o oryrru

Ni chyrhaeddodd y gweinidog iechyd Eluned Morgan y safonau uchel a ddisgwylid ganddi pan arweiniodd ei goryrru at waharddiad gyrru, meddai Mark Drakeford.

Ond dywedodd y prif weinidog na fyddai'n cymryd unrhyw gamau pellach yn ei herbyn.

Mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo'r llywodraeth Lafur o "ragrith", yn sgil beirniadaeth gweinidogion Cymru o Lywodraeth y DU ynghylch helynt partïon Rhif 10.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd ganddyn nhw ddim i'w ychwanegu.

Mae Mr Drakeford wedi dweud o'r blaen nad oes cymhariaeth rhwng yr achosion.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod sylwadau Mr Drakeford mewn llythyr at arweinydd y Torïaid yn y Senedd, Andrew RT Davies, yn gyfaddefiad bod Ms Morgan wedi torri cod y gweinidog - y rheolau ar ymddygiad y mae'n rhaid i weinidogion eu dilyn.

'Ymddiheuro'n ddiamod'

Cafodd Ms Morgan ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis ym mis Mawrth eleni ar ôl iddi gasglu gormod o bwyntiau ar ei thrwydded.

Fe allai'r gweinidog iechyd wynebu camau pellach - fel gwaharddiad gan Senedd Cymru - ar ôl i'r comisiynydd safonau Douglas Bain ddweud ei bod wedi torri cod ymddygiad y Senedd.

Ond proses ar wahân yw cod y gweinidogion, sy'n cael ei lywodraethu gan y prif weinidog, i benderfynu beth yw canlyniad unrhyw doriad.

Dywedodd Mr Drakeford fod Ms Morgan wedi "ymddiheuro'n ddiamod" iddo ac i Lywydd y Senedd Elin Jones.

"Nid wyf yn esgusodi gweithredoedd y gweinidog a arweiniodd at waharddiad - ond nododd nad oedd yn herio'r cyhuddiad a derbyniodd gosb y llys yn llawn ar 17 Mawrth."

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn benderfynol bod gweithredoedd Ms Morgan "yn ymwneud â'r adrannau cyffredinol o'r cod sy'n ei gwneud yn ofynnol i weinidogion gynnal safonau uchel o ymddygiad a chynnal saith egwyddor bywyd cyhoeddus".

"Ar ôl ceisio cyngor deuthum i'r casgliad, er nad oedd y gweinidog yn y mater hwn wedi cynnal y safonau uchel rwy'n eu disgwyl, derbyniais ei hymddiheuriad i mi ac rwy'n fodlon nad oes angen unrhyw gamau pellach."

Dywedodd fod y gweinidog wedi cyfeirio ei hun ato pan gafodd ei chyhuddo o drosedd goryrru.

Daw'r llythyr at Mr Davies yn dilyn cwestiynau gan arweinydd y Torïaid yn y Senedd ynghylch sut yr ymdriniodd y prif weinidog â'r mater.

'Rhagrith'

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod y llythyr yn ei gwneud hi'n "hollol glir fod y prif weinidog wedi cyfaddef ei fod wedi canfod bod cod y gweinidogion wedi ei dorri".

"Dim ond tanlinellu'r rhagrith sydd wedi nodweddu'r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd ers tro y mae hyn: gwnewch fel dwi'n dweud, nid fel fi," ychwanegodd.

"Nawr yn fwy nag erioed, mae angen cynghorydd moeseg annibynnol arnom ni yng Nghymru, fel sydd yn Lloegr a'r Alban, i gynnal yr atebolrwydd y mae Llafur Cymru yn ei ddirmygu cymaint."

O dan god Cymru gall y prif weinidog gyfeirio cwynion at gynghorydd annibynnol, er nad oes un unigolyn wedi ei benodi.

Yn Yr Alban mae panel annibynnol yn bodoli i ymchwilio i doriadau.

Galwodd Mr Drakeford ar y Prif Weinidog Boris Johnson i ymddiswyddo ar ôl iddo dderbyn hysbysiad cosb benodedig am dorri rheol Covid. "Allwch chi ddim bod yn wneuthurwr deddf ac yn dorrwr cyfraith ar yr un pryd," meddai.

Pan ddaeth adroddiad Douglas Bain - sydd eto i'w gyhoeddi - i'r amlwg dywedodd Mr Drakeford: "Wnaeth hi ddim gwneud y gyfraith mae hi wedi ei thorri. Fe gyfaddefodd hynny, ar unwaith. Mae'r llysoedd wedi delio â hi."