Goryrru gweinidog yn 'amlygu diffyg parch i'r gyfraith'

  • Cyhoeddwyd
Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Ms Morgan yn euog i gyhuddiad o oryrru ym mis Mawrth a chafodd ei gwahardd am chwe mis

Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dangos "diffyg parch i'r gyfraith" meddai Comisiynydd Safonau'r Senedd ar ôl cael ei herlyn am oryrru bedair gwaith.

Cafodd Eluned Morgan ei gwahardd rhag gyrru yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ar 17 Mawrth.

Mewn adroddiad heb ei gyhoeddi ond sydd wedi ei weld gan BBC Cymru dywedodd Douglas Bain fod y troseddau yn "esiampl wael iawn" ac yn torri cod ymddygiad y Senedd.

Dywed Ms Morgan na all wneud sylw.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ei bod yn iawn i'r mater gael ei gymryd o ddifrif, ond "wnaeth hi ddim gwneud y gyfraith y mae hi wedi'i thorri".

"Fe gyfaddefodd hi, ar unwaith. Mae'r llysoedd wedi delio â hi."

Dywedodd Mr Drakeford nad oedd wedi gweld yr hyn a ddywedodd y comisiynydd safonau.

"Rwyf wedi delio gyda'r mater o dan y cod gweinidogol ac mae ar gau."

Galwodd Plaid Cymru ar Eluned Morgan i gyfeirio ei hun ar gyfer ymchwiliad o dan y cod gweinidogol.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod y gweinidog Llafur "wedi dweud y dylai gwleidyddion arwain trwy esiampl ond wedi methu â gwneud hynny ei hun".

'Methiant i osgoi ailadrodd ymddygiad anghyfreithlon'

Plediodd Ms Morgan yn euog i gyhuddiad o oryrru ym mis Mawrth a chafodd ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis.

Ar y pryd dywedodd: "Nid yw hyn yn rhywbeth yr wyf yn falch ohono ac rwy'n ymddiheuro'n ddiamod."

Mae adroddiad y Comisiynydd Safonau, Douglas Bain yn dweud iddi gael dirwy o £800.

Nododd yr adroddiad, cyn y gwrandawiad yn Yr Wyddgrug, ei bod wedi ei chael yn euog ar 26 Medi 2019, 30 Mehefin 2020 a 24 Ebrill 2021.

Disgrifiad o’r llun,

Douglas Bain: "Methiant i gymryd camau i osgoi ailadrodd ymddygiad anghyfreithlon"

Dywedodd Mr Bain: "Er y byddai rhai yn ystyried y drosedd yn y gŵyn bresennol fel un nad yw'n arbennig o ddifrifol, o'i chymryd ynghyd â'r tair collfarn flaenorol am yr un drosedd mae'n dangos diffyg parch i'r gyfraith a methiant i gymryd camau i osgoi ailadrodd ymddygiad anghyfreithlon."

Canfu ei bod wedi torri egwyddorion gonestrwydd ac arweinyddiaeth y cod ymddygiad, ac wedi torri rheol sy'n dweud na ddylai aelodau ymddwyn mewn ffordd sy'n dwyn anfri ar y Senedd na'i haelodau.

Mae'r cod ymddygiad yn dweud bod rhaid i Aelodau o'r Senedd bob amser ymddwyn mewn ffordd na fydd yn tanseilio ffydd a hyder y cyhoedd yn y Senedd.

Nid yw'r canfyddiadau wedi'u cyhoeddi ac mae'n rhaid iddynt gael eu hystyried gan bwyllgor safonau'r Senedd, sy'n gorfod penderfynu a ydynt yn cytuno â'r comisiynydd ac a ddylid argymell camau disgyblu.

Fe allai Ms Morgan, wnaeth hefyd ymddiheuro i'r prif weinidog ac i Lywydd y Senedd Elin Jones, hefyd apelio.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Comisiynydd Safonau'r Senedd: "Mae'r gyfraith yn atal y comisiynydd rhag cyfaddef neu wadu bod cwyn wedi'i derbyn a rhag gwneud unrhyw sylwadau mewn perthynas ag unrhyw gŵyn sydd wedi'i chyflwyno."

'Cwestiynau difrifol'

Mae'r gweinidog iechyd a'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bod yn feirniadol iawn o lywodraeth y DU am y ffrae ynghylch partïon yn rhif 10 yn ystod y cyfnod clo.

Galwodd Mr Drakeford ar y Prif Weinidog, Boris Johnson i ymddiswyddo ar ôl iddo dderbyn hysbysiad cosb benodedig am dorri rheol Covid. "Allwch chi ddim bod yn wneuthurwr deddf ac yn dorrwr cyfraith ar yr un pryd," meddai.

Dywedodd Ms Morgan fod digwyddiad â diodydd yn Downing Street lle gwahoddwyd 100 o bobl yn anodd i'w gredu.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae Llafur yn glir y dylai gwleidyddion sy'n torri'r gyfraith roi'r gorau iddi - oni bai wrth gwrs eu bod yn Weinidogion Llafur yng Nghymru.

"Mae'r Farwnes Morgan wedi dweud y dylai gwleidyddion arwain drwy esiampl ond wedi methu â gwneud hynny ei hun.

"Mae'n rhaid caniatáu nawr i'r Comisiynydd Safonau a'r pwyllgor safonau gwblhau eu gwaith ar y mater hwn."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Er ein bod yn bryderus ac yn ofidus iawn fod yr adroddiad wedi cyrraedd y parth cyhoeddus cyn i'r broses ymchwilio ddod i ben, byddai sylwadau'r Comisiynydd Safonau, pe baent yn cael eu cadarnhau yn rhai cywir, yn codi rhai cwestiynau difrifol am farn Eluned Morgan.

"Y ffordd orau ymlaen, o dan yr amgylchiadau hyn, fyddai i Eluned Morgan gyfeirio ei hun ar gyfer ymchwiliad o dan y cod gweinidogol."

Ychwanegodd Mark Drakeford "nad oes unrhyw gyfwerth" rhwng yr achos hwn a'r helynt am bartïon yn rhif 10.

Dywedodd: "Y prif weinidog [Boris Johnson] oedd wedi gwneud y deddfau yr aeth ymlaen i'w torri, gan wadu iddo eu torri, ac ysgogodd ymchwiliad heddlu hir a drud i ddatgelu'r ffaith ei fod wedi eu torri."