Morgannwg yn colli yn erbyn Durham o 58 rhediad

  • Cyhoeddwyd
Billy RootFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Billy Root ar y maes i Forgannwg am y tro cyntaf y tymor hwn

Colli oedd hanes Morgannwg yn erbyn Durham yn Chester le Street, er iddyn nhw ddechrau pedwerydd diwrnod yr ornest yn Adran Dau o'r Bencampwriaeth mewn sefyllfa gymharol addawol.

Ar derfyn y chwarae nos Sadwrn roedd Morgannwg wedi sgorio 65 am dri yn eu hail fatiad, a hynny ar ben y 365 o rediadau yn y batiad cyntaf oedd yn cynnwys 88 gan Billy Root.

126 o rediadau ychwanegol oedd angen felly i gyrraedd targed o 191 wedi i Durham sgorio 311 a 244 yn eu batiadau nhw.

Ond fe wnaeth bowlwyr Durham eu rhoi dan bwysau mawr yn sesiwn gyntaf ddydd Sul ac erbyn amser cinio roedd Morgannwg wedi cyrraedd 125 am wyth wiced.

Erbyn i Matt Potts (40-7) hawlio wiced olaf Morgannwg roedd y sgôr - 137 - yn bell o'r nod, a Durham wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor.

Ers dechrau'r tymor mae Morgannwg wedi ennill ddwywaith, colli ddwywaith a sicrhau dwy gêm gyfartal.

Pynciau cysylltiedig