Storm o daranau ar ei ffordd i rannau o dde Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd y gallai tywydd garw achosi difrod i gartrefi a bod yna bosibilrwydd o lifogydd mewn rhannau o dde Cymru dros nos.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau sy'n dod i rym am 20:00 nos Sul ac yn para tan 05:00 fore Llun.
Dywed arbenigwyr bod yna bosibilrwydd o golli cyflenwadau trydan ac fe allai dŵr ar y ffyrdd amharu ar deithwyr.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i 12 o siroedd Cymru:
Abertawe
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Caerdydd
Caerffili
Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot
Merthyr Tudful
Mynwy
Pen-y-bont ar Ogwr
Rhondda Cynon Taf
Torfaen