Eisteddfod yr Urdd: Dadorchuddio cadair a choron 2022

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CoronFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y gemydd Ann Catrin Evans o Gaernarfon yw cynllunydd y goron ar gyfer 2022

Cafodd cadair a choron Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 eu dadorchuddio mewn digwyddiad arbennig yn Llyfrgell Dinbych nos Lun.

Y gemydd Ann Catrin Evans o Gaernarfon yw cynllunydd y goron a'r saer Rhodri Owen o Ysbyty Ifan yw gwneuthurwr y gadair wrth i'r mudiad ddathlu ei ganmlwyddiant.

"Ro'n i am gofnodi canmlwyddiant yr Urdd mewn ffordd gynnil oedd yn berthnasol i'r ardal," medd Mr Owen bythefnos cyn yr ŵyl, fydd yn digwydd rhwng 30 Mai a 4 Mehefin ar gyrion tref Dinbych.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r ŵyl gael ei chynnal wyneb yn wyneb ers 2019, wedi iddi gael ei gohirio ddwywaith yn sgil y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y saer Rhodri Owen o Ysbyty Ifan yw gwneuthurwr y gadair wrth i'r mudiad ddathlu ei ganmlwyddiant

"Gan ei bod hi'n ben-blwydd yr Urdd yn 100 oed eleni, wnes i ail-ddylunio'r goron oedd yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod 2020 er mwyn adlewyrchu hynny," meddai Ms Evans.

Dyma'r wythfed goron i Ms Evans ei dylunio, gan ddweud bod tirlun amaethyddol Dinbych a'r cyffiniau ac offer o fyd ffermio wedi bod yn ysbrydoliaeth iddi.

"Rwy'n ferch fferm ac roedd y peiriant torri gwair Bamford Major yn ysbrydoliaeth," meddai.

"Dwi wedi defnyddio deunyddiau cyferbyniol sy'n creu drama yn y goron - copr ac arian sterling yw'r prif ddeunyddiau, ac mae'r cap melfed a sidan coch hyfryd yn ategu at y ddrama.

"Mae'n goron fawreddog a dwi'n methu aros i'w gweld hi ar ben yr enillydd o fewn y mis."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ann Catrin Evans fod tirlun amaethyddol Dinbych a'r cyffiniau ac offer o fyd ffermio wedi ei hysbrydoli

"Bu i gystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg yr Urdd chwarae rhan fawr wrth feithrin fy nghreadigrwydd fel plentyn," meddai dylunydd y gadair Rhodri Owen.

"Yn ddi-os mae'r un peth yn wir am filoedd o blant eraill ar draws y wlad.

"Mae'r marciau ar y gadair yn rhifo 100, ac yn sillafu Sir Ddinbych ar y ddwy ochor hefyd.

"Mae'r panel gwaelod ar ffurf rhai o fryniau Clwyd a'r marciau lliwgar ar y panel mwyaf yn dynodi ieuenctid bywiog yr ardal ar siapiau llif afon.

"Dwi'n gweld y lliwiau yma yn rhedeg drwy'r ffawydd fel yr Afon Clwyd yn tarddu o Hiraethog cyn rhedeg o un pen o'r sir i'r llall."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhodri Owen fod cystadlaethau'r Urdd wedi "chwarae rhan fawr wrth feithrin fy nghreadigrwydd"

Ysgol Uwchradd Glan Clwyd - yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Nghymru - yw noddwyr y gadair eleni.

"Mae dathlu twf a newydd-deb cenedlaethau newydd o Gymry yn parhau i ddod â gwefr ac yn cadarnhau ein pwrpas a'n gweledigaeth fel ysgol," meddai'r dirprwy bennaeth Sian Alwen.

"Ein nod drwy gydweithio efo Rhodri oedd cyfleu bwrlwm yr ieuenctid yn yr ardal a'r llif o Gymreictod sydd i'w weld o un pen i'r dyffryn i'r glannau."

Cafodd eisteddfod Sir Ddinbych ei gohirio yn 2020 a 2021 - yn hytrach cafodd Eisteddfod T ei chynnal lle'r oedd plant yn cystadlu o adref.

Dywed noddwyr y goron, Cymdeithas Gymraeg Dinbych: "Bu cydweithio hefo Ann Catrin yn bleser pur ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld y Goron ar ben y llenor buddugol... gobeithio!"

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth triban mawr ymddangos ar ochr bryn sy'n edrych dros dref Dinbych yn gynharach ddydd Llun i dynnu sylw at yr ŵyl

"Mae'r newid i'r dyddiad wedi bod yn rhan o'r her i'n crefftwyr eleni," meddai Siân Eirian, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau.

"Gobeithio y bydd teilyngdod, fel bod y ddwy wobr yn cael eu mwynhau mewn cartrefi am flynyddoedd i ddod."

Bydd Seremoni'r Cadeirio ddydd Iau 2 Mehefin, a'r Coroni ddydd Gwener 3 Mehefin.