Eisteddfod T 'yn llwyddiant ysgubol unwaith eto'
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr yr Urdd wedi disgrifio Eisteddfod T fel "llwyddiant ysgubol eto eleni" gyda safon cystadlu "syfrdanol", wrth i'r ŵyl ddod i ben.
"Mi ydan ni wedi cael wythnos fendigedig yma yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, ac wrth ein boddau o fedru cael cynnal elfennau byw ar leoliad, yn enwedig felly'r Prif Seremonïau," meddai Siân Eirian.
"Fel arall mae ein beirniad wedi bod yn datgelu'r canlyniadau ar deledu byw, o'u cartrefi, ynghyd â'r holl gystadlu yn digwydd yn ddigidol.
"Mi ydan ni wedi, ac yn parhau i fod yn cael ymateb gwych gan y gynulleidfa adref."
Fe ddenodd yr Eisteddfod T dros 13,000 o gystadleuwyr mewn 134 o gystadlaethau.
Roedd yna gyfle i'r gynulleidfa adref weld y cyfan wrth i S4C ddarlledu 37 awr ac roedd 25 awr ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru2, ynghyd â gweithgareddau ar Ap Eisteddfod yr Urdd a'r cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Rydym yn falch iawn o gael arddangos talentau a doniau ieuenctid Cymru unwaith eto ar S4C.
"Er gwaetha'r siom o golli wythnos Eisteddfod yr Urdd ar ei ffurf draddodiadol eto eleni, mae Eisteddfod T unwaith eto wedi gallu camu i'r adwy a chreu digwyddiad unigryw, cyffrous ac arloesol."
Dywedodd Dafydd Meredydd, Golygydd Cynnwys BBC Radio Cymru ei bod wedi bod yn bwysig fod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed yn cystadlu ar BBC Radio Cymru ac yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru2.
"Mae hi wedi bod yn wythnos benigamp a chystadleuwyr brwd Eisteddfod T wedi rhoi gwledd i'n gwrandawyr," meddai.
"Mae hi'n hanfodol fod ieuenctid Cymru yn cael llwyfan cenedlaethol i arddangos eu doniau ac mae BBC Radio Cymru mor falch o fod wedi gallu darparu hynny, ynghyd ag S4C yr wythnos hon."
Côr yr Urdd yn teithio i Alabama
Bu teilyngdod yn holl brif seremonïau Eisteddfod T, gyda'r canlynol yn cipio tlws arbennig yr un: Phoebe Skinner o Gaerdydd (Prif Ddysgwr), Rhiannon Gwyn o Sling ger Bethesda (Prif Artist), Alaw Grug Evans o Bontyberem (Prif Gyfansoddwr), Rhiannon Lloyd Williams o Gaerdydd (Prif Ddramodydd), Sioned Medi Howells o New Inn, Pencader (Prif Lenor) a Kayley Sydenham o Gasnewydd (Prifardd).
Yn ystod yr wythnos cyhoeddwyd bod enillydd cystadleuaeth Unawd 19-25 Eisteddfod T, Dafydd Jones o Lanrhaeadr, Sir Ddinbych, yn cael ei wahodd i berfformio fel gwestai arbennig yng Ngŵyl Cymru Gogledd America 2021, a gynhelir yn Utica, Efrog Newydd ym mis Medi.
Bydd 16 o fuddugwyr Eisteddfod T hefyd yn cael y cyfle i ymuno â chôr newydd sbon - Côr yr Urdd - fydd yn teithio i Alabama fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y mudiad yn 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2021
- Cyhoeddwyd31 Mai 2021
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2021