Arian ychwanegol i'r Urdd sy'n dal i deimlo effaith Covid

  • Cyhoeddwyd
Urdd Gobaith CymruFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cyllid i'r Urdd er mwyn rhoi mynediad am ddim i'r Eisteddfod eleni

Fe fydd yr Urdd yn derbyn arian ychwanegol gan y llywodraeth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, wrth i'r mudiad barhau i deimlo effaith y pandemig.

Dywedodd yr Urdd wrth BBC Cymru Fyw ei fod wedi llwyddo i beidio "bod yn rhy ddibynnol ar gyllid cyhoeddus" ar hyd y blynyddoedd, ond bod y pandemig wedi arwain at "golled incwm sylweddol".

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru £1.2m yn ychwanegol i'r mudiad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae hyn ar ben y £527,000 gan y llywodraeth i sicrhau mynediad i Eisteddfod yr Urdd eleni a'r £1.3m ychwanegol i helpu'r mudiad ieuenctid greu 60 o swyddi newydd.

Dywedodd yr Urdd ei fod yn ddiolchgar i'r llywodraeth am y gefnogaeth.

'Colled incwm sylweddol'

Dywedodd yr Urdd yn 2020 ei fod wedi colli bron i hanner ei staff oherwydd y pandemig.

Gofynnodd BBC Cymru Fyw pryd mae'r Urdd yn rhagweld y bydd ei incwm yn codi'n ddigonol fel na fydd angen dibynnu ar arian y llywodraeth - ond doedd y mudiad ddim am wneud sylw.

Disgrifiad o’r llun,

Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 - yr eisteddfod olaf cyn i'r pandemig daro

Wrth ymateb i'r arian ychwanegol ddydd Mawrth, fe ddywedodd llefarydd ar ran y mudiad nad oedd yn rhaid dibynnu'n ormodol ar arian cyhoeddus cyn y pandemig, ond bod y sefyllfa wedi newid.

"Ers blynyddoedd, mae'r Urdd wedi ymdrechu a llwyddo i gynhyrchu ei incwm ei hun, heb fod yn rhy ddibynnol ar gyllid cyhoeddus, a cyn Covid-19 roedd ein model busnes yn gryf.

"Ond o ganlyniad i'r pandemig, bu'n rhaid cau ein gwersylloedd i breswylwyr, a daeth ein gweithgareddau cymunedol, chwaraeon a chelfyddydol arferol i stop, a arweiniodd at golled incwm sylweddol," ychwanegodd.

Dywedodd y llefarydd bod y mudiad yn "hynod ddiolchgar i'r llywodraeth am eu cefnogaeth" ac am "helpu'r mudiad i ddechrau ar y gwaith ail-adeiladu ar ôl cyfnod hynod anodd yn sgil Covid".

Dywedodd y bydd y gefnogaeth ariannol ychwanegol yn galluogi'r Urdd i barhau i gynnal gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru yn dilyn effaith Covid-19 ar y sefydliad.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, ei bod yn bwysig creu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg tu allan i'r ystafell ddosbarth

Yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, bydd y cyllid ychwanegol yn "cefnogi rhwydwaith o swyddogion datblygu yn yr Urdd ledled Cymru" ac yn ehangu cynllun prentisiaethau'r Urdd mewn ardaloedd difreintiedig.

"Mae creu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn bwysig hefyd, boed hynny'n cystadlu yn gelfyddydol neu mewn chwaraeon, neu ymweld â'r Eisteddfod," ychwanegodd.

"Rwy'n falch, felly, o roi cymorth i'r Urdd dros y flwyddyn nesaf er mwyn iddynt allu parhau â'r gwaith arbennig o agor drysau a rhoi cyfleoedd gwych i bobl ifanc.

"Bydd yr holl weithgareddau hyn yn helpu i ni gyrraedd y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 900 o leoedd ychwanegol yn cael eu creu o fewn addysg Gymaeg, a 300 mewn canolfannau trochi

Yn ogystal â'r arian ychwanegol i'r Urdd, fe gyhoeddodd y gweinidog enwau 11 prosiect ar hyd Cymru fel y cam nesaf i gynlluniau iaith Gymraeg.

Wrth siarad ar Dros Frecwast ddydd Mawrth, dywedodd y bydd tua 900 o leoedd yn cael eu creu mewn ysgolion ledled Cymru a thua 300 mewn canolfannau trochi.

Cafodd y gronfa gwerth £30m ei chyhoeddi llynedd.

Ysgolion yw mwyafrif y prosiectau, gyda'r arian yn mynd i naw ardal yng Nghymru.

Pa ysgolion a phrosiectau sy'n elwa o'r arian?

Bydd Ysgol I D Hooson, Wrecsam yn derbyn £6.3m, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Ceredigion yn cael £5.7m ac Ysgol y Strade, Llanelli yn derbyn £4.4m i ehangu lleoedd eu canolfan trochi a chynyddu capasiti'r disgyblion i 1,500.

Mae disgwyl i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd gael ei sefydlu i dros 200 o ddisgyblion ym Mwcle, Sir y Fflint - a £5.6m o'r gronfa yn cael ei gyfrannu tuag at hynny.

Bydd ysgol gynradd egin ar gyfer Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn £3.25m ac Ysgol Caer Elen, Sir Benfro yn cael £2.5m.

Bydd swm o £1.875m yn mynd tuag at gynyddu capasiti ysgolion yng Ngwynedd o fewn "ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol" - sef Llanllechid, Penygroes a Chwilog. Bydd £1.15m yn mynd tuag at Ganolfannau Iaith yng Ngwynedd hefyd.

Bydd Ysgol y Creuddyn, Conwy, yn derbyn £914,000, Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr yn cael £270,000 ac Ysgol Bro Edern, Caerdydd yn derbyn £100,000.