Ambiwlans i Aberystwyth gan nyrs a deithiodd y byd
- Cyhoeddwyd
Mae'r diweddar Sarah 'Morfudd' Jones wedi rhoi nawdd o £190,000 i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
Mae'r arian gan y nyrs o Lanilar a deithiodd y byd wedi cael ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn ambiwlans newydd i'r ardal.
Bydd yr offer newydd yn cael ei ddatgelu yng Ngorsaf Ambiwlans Aberystwyth fore Gwener.
Bydd teulu Morfudd - o Gymru ac o Ganada - yn ymuno yn y digwyddiad i ddathlu ei chyfraniad i faes iechyd.
Pwy oedd Morfudd?
Roedd Sarah 'Morfudd' Jones yn nyrs a deithiodd i Ganada ar ôl cael cynnig gan weithwyr a ddaeth i recriwtio yn y Deyrnas Unedig.
Dechreuodd ei gyrfa nyrsio yn 1984 yn Ysbyty North Road yn Aberystwyth ac yna Ysbyty Llandochau, ger Caerdydd cyn mynd i Marston Green yn Birmingham i astudio Bydwreigiaeth.
Yn 1962, daeth metronau o Ganada draw i'r Deyrnas Unedig i recriwtio nyrsys. Manteisiodd Morfudd a dwy ffrind ar y cyfle pan gynigwyd gwaith iddynt yn Hamilton, Canada.
Ar ôl byw yno am gyfnod, a theithio'r byd, bu farw Morfudd ym mis Rhagfyr 2018.
Ar ôl oes o weithio yn y maes iechyd, mae Morfudd wedi gwneud yn siŵr bydd trigolion ardal Aberystwyth yn cael budd o'i gwaith.
Wrth ymateb i'r nawdd, dywedodd Meinir Davies, nith Morfudd fod y teulu'n "falch iawn".
"Mae wedi cofio am ei gwreiddiau genedigol yn Nantydderwen, Llanilar... yn Gymraes i'r carn."
Ychwanegodd: "Heddiw mae yr ambiwlans yn cael ei gyflwyno yn Aberystwyth yn gwireddu dymuniad Morfudd gan obeithio fydd o gymorth i ardal a thrigolion Aberystwyth a'r cylch."
Fore Gwener, bydd cyflwyniadau a chyfle i bobl gwrdd â theulu Morfudd yng Ngorsaf Ambiwlans Aberystwyth.
Fe fydd yr ambiwlans newydd yn cael ei arddangos i'r cyhoedd gyda sgwrs am ba mor fuddiol fydd yr offer i ardal Aberystwyth.
Bydd llun o Morfudd a'i gŵr, Wiliam Gretton Jones, yn cael ei osod fel symbol o'i gwaith yno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd7 Medi 2021
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2016