Ceredigion: Pryder am gwtogi gwasanaeth ambiwlans

  • Cyhoeddwyd
gorsaf ambiwlans Aberteifi

Mae Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gorfod gwadu bod yna gynlluniau i gwtogi ar wasanaethau yng Ngheredigion.

Daw ar ôl i'r AS lleol ddatgan pryderon am doriadau i orsafoedd Aberteifi ac Aberystwyth.

Yn ôl Elin Jones mae hi wedi cael gwybod gan ffynonellau sydd yn agos at y gwasanaeth bod yna fwriad i gael gwared ar un criw dydd yn Aberteifi ac Aberystwyth.

Mae yna bedair gorsaf yn cynnig gwasanaeth 24 awr yng Ngheredigion ar hyn o bryd.

Mae dau griw dydd yn gweithio o orsafoedd Aberteifi ac Aberystwyth, ac un criw yr un yn gweithio yng ngorsafoedd Llanbedr Pont Steffan a Chei Newydd.

Mae un criw yn gweithio o bob gorsaf gyda'r nos.

Mae hi hefyd wedi clywed bod yna fwriad i beidio cynnig Gwasanaeth Gofal Brys y tu allan i oriau dyddiau gwaith, sydd yn cludo'r cleifion llai difrifol.

Yn ôl Elin Jones, bydd unrhyw gynllun i dorri'n ôl ar wasanaethau yn peryglu bywydau.

Dywedodd: "Mae haneru'r gwasanaeth sydd ar gael yn ardal Aberystwyth ac Aberteifi yn codi pob math o amheuon ym meddyliau pobl y bydd yna bobl yn aros yn rhy hir am ambiwlans i fedru arbed eu bywyd nhw, ac felly y dehongliad wedyn yw bod bywydau pobl mewn peryg yn y sir yma."

'Ddim yn dderbyniol'

Mae'r Cynghorydd John Adams Lewis, sydd yn cynrychioli Ward Mwldan ar Gyngor Sir Ceredigion, yn ategu pryderon yr aelod lleol.

"Ni 30 milltir o unrhyw ysbyty," meddai. "Mae dod lawr o ddau griw i un ddim yn dderbyniol achos maen nhw yn helpu mas yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Phowys. Ac felly mae eisiau, os rhywbeth, ychwanegu y nifer o griwiau achos dwi'n clywed yn ddyddiol bod cleifion yn gorfod aros am oriau am ambiwlans."

Dywedodd Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens nad oedd bwriad ar hyn o bryd i "leihau gwasanaethau ambiwlans yng Ngheredigion" ac mae'r "gwasanaeth yn parhau i dyfu".

Cafodd adolygiad ei gynnal gan y gwasanaeth yn 2019, ac mae hi'n "briodol i ailagor yr adolygiad, a'i ddiweddaru i adlewyrchu'r darlun cyfoes," ychwanegodd.

Cadarnhaodd Mr Killens y bydd yn cwrdd ag Elin Jones yn ddiweddarach yn y mis i drafod ei phryderon.

Pynciau cysylltiedig