Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Benetton 62-21 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
caerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Doedd yna ddim prinder ceisiau yn y gêm rhwng Benetton a Chaerdydd nos Wener ond er bod ymdrechion gwell gan y Cymry ar ddechrau'r ail hanner colli fu eu hanes yn erbyn yr Eidalwyr yn Stadio Monigo, Treviso.

Yn yr hanner cyntaf roedd yna bedwar cais a phwynt bonws i dîm Benetton o fewn hanner awr ond fe ddaeth pwyntiau i Gaerdydd wedi 37 munud wedi cais gan Rhys Carre a'r sgôr ar yr egwyl oedd 31-7.

Roedd yna ddechrau gwell i Gaerdydd yn yr ail hanner wrth i Rhys Carre groesi am ei ail gais ond fuodd yr Eidalwyr ddim yn hir cyn ymateb.

Cyn pen yr awr yr oedd dau gais arall i Benetton ond fe ddaeth trydydd cais i Gaerdydd - Max Llewellyn y tro hwn.

Y sgôr terfynol 62-21.

Ar ddiwedd y gêm dywedodd Dai Young, prif hyfforddwr Caerdydd, nad oedd ei dîm yn ddigon cryf yn feddyliol na chorfforol.