Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 31-38 Bulls

  • Cyhoeddwyd
Gweilch yn erbyn BullsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd hi'n noson siomedig i'r Gweilch yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig wrth iddyn nhw golli o 31-38 yn erbyn Bulls.

Fe wnaeth y tîm o Dde Affrica ennill y blaen yn fuan yn yr hanner gyntaf gan sgorio dau gais gynta'r gêm.

Llwyddodd y Gweilch i leihau mantais yr ymwelwyr drwy gic gosb Gareth Anscombe wedi 33 munud a chais Jac Morgan bum munud yn ddiweddarach.

Ond roedd hi'n 10-12 erbyn hanner amser.

Er gwaethaf ymdrechion y Gweilch, fe wnaeth Bulls barhau ar y blaen drwy gydol yr ail hanner, gan sicrhau pedwar cais pellach.

Nid oedd ceisiau Luke Morgan a Sam Parry yn yr ail hanner yn ddigon i gipio buddugoliaeth i'r Gweilch, a'r sgôr terfynol oedd 31-18.

Pynciau cysylltiedig