Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 21-26 Stormers

  • Cyhoeddwyd
Scarlets v StormersFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Scarlets ddechrau da gyda chais Johnny Williams ond roedd y Stormers wastad yn ymateb

Y Gweilch fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf wedi i'r Scarlets gael eu trechu gartref gan y Stormers ddydd Sadwrn

Mae'r canlyniad yn golygu mai'r Gweilch sy'n gorffen ar frig tabl rhanbarthau Cymru yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig y tymor hwn ac yn ennill Tarian Cymru.

Daeth y cais cyntaf i'r Scartlets gan y canolwr Johnny Williams o fewn 10 munud, cyn i Leolin Zas daro 'nôl i'r ymwelwyr o fewn ychydig funudau.

Ychwanegodd Evan Roos ail gais i'r tîm o Dde Affrica ar drothwy hanner amser, ond y Scarlets oedd ar y blaen o 16-14 ar yr egwyl diolch i 11 pwynt o droed Sam Costelow.

Aeth y Stormers ar y blaen am y tro cyntaf ar ddechrau'r ail hanner gyda chais gan Ruhan Nel, cyn i'w prop Deon Fourie weld cerdyn melyn am dacl uchel ar fewnwr y Scarlets Kieran Hardy.

Gyda llai na 10 munud yn weddill roedd y sgôr yn gyfartal wedi i'r asgellwr Ryan Conbeer groesi yn y gornel i'r tîm cartref, ond fe sgoriodd Nel ei ail gais yn y munud olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Pynciau cysylltiedig