Rheilffordd yn cau wedi tân ar drên ger Amwythig
- Cyhoeddwyd
Bydd y rheilffordd rhwng Amwythig a Chasnewydd ar gau ddydd Llun wedi tân ar drên.
Bu'n rhaid i oddeutu 60 o bobl adael trên Trafnidiaeth Cymru ger gorsaf Craven Arms, Sir Amwythig am 22:30 nos Sul.
Yn ôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain, fe ddechreuodd y tân ar ôl i'r trên daro gwrthrych mawr ar y cledrau.
Bydd y rheilffordd yn parhau ar gau gydol ddydd Llun a bydd y gwasanaethau rhwng Amwythig a Chasnewydd yn cael eu heffeithio am weddill y diwrnod.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio teithwyr i gynllunio'n ofalus ac yn dweud bod dewisiadau eraill fel gwasanaethau bws neu drenau eraill ar gael.
Mae ymchwiliad yn parhau i sut ddechreuodd y tân ac mae'r llu wedi dweud na chafodd unrhyw un ei anafu.