Y gŵr dall oedd yn gwneud brwshys

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Brwsh

Roedd William Owen yn rhoi 3,500 brwsh at ei gilydd bob blwyddyn, gan weithio o 7:30 y bore tan 5:30 y nos. Ond yn rhyfeddol roedd yn gwneud yr holl waith yma tra bod yn ddyn dall.

Yn 11 oed roedd ei olwg yn dirywio i'r pwynt lle nad oedd yn gallu astudio er mwyn mynd i'r Ysgol Ramadeg - "Wedyn oedd rhaid cymryd pob peth fel yr oedd o," meddai William Owen.

Aeth i weithio ar ffermydd yn Sir Fôn, cyn symud i Wrecsam yn 1938.

Erbyn 1953 dim ond ychydig iawn oedd o'n gallu ei weld ac felly aeth ar gwrs hyfforddi yn Torquay, cyn gweithio yn y Workhouse for the Blind yn Lerpwl.

Roedd William Owen hefyd yn ddyfeisiwr ac yn treulio ei amser rhydd yn creu dodrefn a theclynnau.

Hefyd o ddiddordeb: