Pryniant cwmni electroneg yn cael ei alw i mewn

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Experia Newport
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 450 o bobl yn cael eu cyflogi yn y ffatri sydd yn ardal Dyffryn y ddinas

Mae cytundeb gan gwmni Nexperia i brynu ffatri electroneg yng Nghasnewydd wedi cael ei alw i mewn gan Lywodraeth y DU.

Mae pryderon wedi codi dros oblygiadau gwerthu cynhyrchydd microsglodion mwyaf y DU, Newport Wafer Fab, gan mai cwmni o China sy'n cael ei gefnogi gan lywodraeth y wlad yw prif berchennog Nexperia.

Mewn neges ar ei gyfrif Twitter, cyhoeddodd Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU, Kwasi Kwarteng ei fod wedi galw'r pryniant i mewn.

"Bydd yna asesiad llawn nawr dan y Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol a Buddsoddiad newydd," ysgrifennodd.

"Rydym yn croesawu buddsoddiadau o dramor, ond ni ddylai fygwth diogelwch cenedlaethol Prydain."

Mewn datganiad, dywedodd yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol (BEIS) fod y ddeddf yn rhoi'r hawl i'r llywodraeth "graffu ac - os oes angen - ymyrryd o ran cymhwyso pryniannau ar sail diogelwch".

Ychwanegodd: "Mae gan y llywodraeth 30 diwrnod gwaith (y gellir ei ymestyn hyd at 45 o ddiwrnodau gwaith pellach) i gynnal yr asesiad hwnnw. Mae'r broses honno yn mynd rhagddi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae prinder lled-ddargludyddion wedi bod ar draws y byd

Mae'r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan yr undeb Prospect, sy'n cynrychioli gweithwyr technolegol a gwyddonol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Mike Clancy bod yr undeb wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i ymyrryd ac atal gwerthu'r "busnes Prydeinig blaengar yma o fewn diwydiant uwch-dechnoleg allweddol bwysig i gwmni dan berchnogaeth Chineaidd".

"Rydym yn falch eu bod o'r diwedd wedi ei alw i mewn ar gyfer asesiad diogelwch llawn.

"Mae diogelwch gwladol, diwydiant a swyddi'n dod at ei gilydd fel na welwyd erioed o'r blaen yn ein byd afreolus.

"Rhaid i'r ymyrraeth yma fod yn gam cyntaf at strategaeth i warchod ac ehangu gallu'r DU yn y tymor hir o fewn y diwydiant lled-ddargludyddion."