Canfod yr achos cyntaf o frech y mwncïod yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Gronyn feirws y frech mwncïodFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae achos o frech y mwncïod wedi ei gadarnhau yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau.

Nid yw manylion am leoliad yr achos wedi eu rhyddhau am resymau cyfrinachedd.

Dywedodd ICC bod yr achos yn cael ei fonitro'n ofalus, a bod y risg i'r cyhoedd yn isel.

"Nid yw brech y mwncïod yn lledaenu rhwng pobl fel arfer," meddai Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ICC, Dr Giri Shankar.

"Mae fel arfer yn salwch ysgafn, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella o fewn ychydig wythnosau."

Mae achosion o'r afiechyd prin yn cael eu hymchwilio mewn gwledydd ar draws Ewrop, gan gynnwys y DU.

Yng ngwledydd canolbarth Affrica mae'r afiechyd yn cael ei weld fel arfer, ond mae wedi ei weld yn Ewrop, Gogledd America ac Awstralia yn ddiweddar.

Mae symptomau'r afiechyd yn cynnwys brech sy'n aml yn dechrau ar yr wyneb cyn lledaenu ar y corff.

Mae'n gallu achosi cur pen, poenau cyhyrol, twymyn a blinder hefyd.

Dywedodd ICC bod gofyn i bawb fod yn ymwybodol o'r symptomau, ond yn enwedig dynion hoyw a deurywiol yn sgil pryderon bod yr afiechyd yn "lledaenu o fewn rhwydweithiau rhyw".

Mae mwy o wybodaeth ar wefan y GIG, dolen allanol.

Pynciau cysylltiedig