Morgannwg yn trechu Sussex yng ngêm agoriadol y T20

  • Cyhoeddwyd
Marnus LabuschagneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Marnus Labuschagne oedd un o'r sêr i Forgannwg gyda sgôr o 41 o 30 pêl

Fe ddechreuodd Morgannwg eu hymgyrch yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 nos Iau gyda buddugoliaeth o saith wiced oddi cartref yn Sussex.

Ar ôl i Forgannwg ddewis mai'r tîm cartref fyddai'n batio gyntaf, llwyddodd Sussex i gyrraedd cyfanswm o 150-6 ar ddiwedd eu 20 pelawd nhw.

Seren Pacistan, Mohammad Rizwan oedd y prif sgoriwr gydag 81 o rediadau heb fod allan, tra bod Michael Hogan wedi cymryd tair wiced i'r ymwelwyr.

Fe lwyddodd Morgannwg i gyrraedd y targed gyda sgôr o 153-3 gyda 7 pêl yn weddill, gyda Sam Northeast (63 heb fod allan) a Marnus Labuschagne (41) yn serennu.

Bydd Morgannwg yn chwarae eto yn yr un gystadleuaeth nos Wener, y tro hwn oddi cartref yn Surrey.

Pynciau cysylltiedig