'Da ni eisiau i'r cyhoedd ddeall bod ni yna i helpu'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Andy Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y parafeddyg Andy Davies ei anafu fis Mehefin y llynedd

Mae nifer yr ymosodiadau ar weithwyr brys yng Nghymru ar gynnydd - a chyfuniad o effaith y pandemig ac amseroedd aros hir wrth wraidd y cyfan, medd staff.

Roedd 'na 2,838 ymosodiad ar blismyn, staff carchardai, ymladdwyr tan, gweithwyr ambiwlans a staff y gwasanaeth iechyd yn gyffredinol y llynedd. Mae hynny 4.9% yn uwch nag yn 2020.

Dydy hi ddim yn glir a oes mwy o ymosodiadau, neu oes rhagor yn adrodd amdanyn nhw erbyn hyn.

Ond mae'r ffigyrau'n tynnu sylw at yr hyn mae gweithwyr brys yn wynebu yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Mae'r ymosodiadau yn amrywio o gicio, ddyrnu neu boeri i frathu neu gam-drin geiriol.

Mae penaethiaid iechyd yn cydnabod y gallai'r trais ddeillio o rwystredigaeth wrth i gleifion aros yn hir. Ond eu neges ydy y gallai ymddygiad o'r fath amharu ar allu staff i helpu rhai mewn angen.

'Ma' pobl yn mynd yn frustrated'

Cafodd y parafeddyg Andy Davies ei anafu fis Mehefin y llynedd ar ôl galwad at glaf meddw yn y gogledd.

"Gyrhaeddais i'r scene a nes i weld y gentleman ar y llawr. O'dd o'n reit verbally aggressive tuag ata fi, poeri arna fi cwpl o weithia'.

"So nes i ofyn am help yr heddlu. O'ddan nhw 'di troi fyny a nes i helpu i roi o'n cefn y car heddlu.

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r hysbysebion sydd bellach yn ymdangos ar gerbydau ambiwlans

"Fel o'n i'n gwneud hynna, 'nath o luchio'i hun ar y llawr ac achosi partial dislocation i'n ysgwydd chwith fi a cicio fi yn y groin hefyd. So gath o'i arestio wedyn am assault-io fi."

Cafodd y claf ei garcharu am 26 wythnos am y drosedd.

Mae Andy yn credu bod sawl rheswm am y cynnydd mewn ymosodiadau o'r fath.

"O'r blaen doedd o'm yn digwydd yn aml ond dros y ddwy flynedd diwetha' 'da ni 'di gweld mwy a mwy o staff yn cael eu verbally neu physically assault-io gan bobl.

"'Di o ddim wedi helpu efo Covid. Dydy o ddim 'di helpu chwaith yn ddiweddar efo delays mawr efo ambiwlansys, delays yn yr ysbyty.

"Ma' pobl yn mynd yn frustrated. Dydy o'm yn helpu bod cwrw yn involved mewn lot o betha' hefyd. Mae 'na gymaint o bethau sy'n achosi'r problemau 'ma.

"Mae'r alwad 'da ni 'di gael, ella bod o'n rwbath hawdd i ddelio efo fo. Ond achos bod pobl 'di bod yn aros mor hir, ma' pethau'n mynd yn waeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andy bellach yn ôl yn ei waith

"Mae'n anodd i ni gorfod trio delio efo'r patient, wedyn 'da ni'n gorfod delio efo'r teulu neu'r ffrindiau - maen nhw'n reit frustrated ac upset. Ma' nhw'n medru bod reit aggressive tuag ata ni, eisiau i ni 'neud bob dim. Mae'n rili anodd.

"Dim bai ni ydy o bod ni'n hwyr i ddod atoch chi - mae 'na lot o bethau'n stopio ni 'neud gwaith ni ar y foment efo delays mawr. 'Da ni'n frustrated bod ni methu mynd allan i helpu pobl mor fast a 'da ni fod i 'neud.

"'Da ni'n frustrated bod ni'n ista tu allan i ysbyty mor hir a ma' cleifion yn aros mor hir i gael eu gweld. 'Da ni'm yn rhoi'r bai ar yr ysbyty chwaith - mae 'na lot o bethau'n mynd ymlaen yna. Mae 'na frustrations mawr drwy'r gwasanaeth i gyd."

Iechyd meddwl

Ar ôl chwech wythnos o ffisiotherapi, roedd Andy wedi gwella ac yn ôl wrth ei waith. Ond nid felly mae hi i bawb, ac meddai. "Mae rhai 'di cael eu assault-io mor ddrwg, maen nhw 'di gorfod mynd off am hir, maen nhw 'di gorfod cael operation.

"Rhai wedi gorfod bod off am flwyddyn, blwyddyn a hanner, dibynnu ar yr injury. Mae rhai 'di bod off achos o'r stress - ma' mental health lot o'r staff 'di cael ei hitio yn y ddwy flynedd diwetha'.

"Mae 'na lot o bethau i'n helpu ni. O'n i'n lwcus ar ôl fy injury i, o'dda nhw ar y ffôn yn syth, helpu i gael fi i physio, ffonio fi bob wsos i weld sut o'n i.

"O'dd 'na ddigon o welfare - a'r staff ti'n gweithio efo, rheiny ydy'r peth gorau. Maen nhw'n helpu chdi trwy bob dim, maen nhw yna i chwerthin. Heb hynna, dwi'n meddwl fasa lot o bobl 'di gadael."

'Impact yn fwy na mae bobl yn feddwl'

Yn ôl Sonia Thompson o Wasanaeth Ambiwlans Cymru mae'r broblem yn effeithio ar bob agwedd o'r gwaith, gan gynnwys yn y canolfannau galwadau.

Meddai: "Os ydy rhywun yn aggressive dros y ffôn efo'r call takers mae hynna'n amharu ar yr amser 'da ni eisiau i wneud yn siŵr bod nhw'n saff, i wybod be' sy'n bod efo'r cleifion i ni gael anfon yr ambiwlansys atyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Sonia Thompson: 'Mae'r impact yn fwy na mae bobl yn feddwl'

"Felly mae'r effaith yn fwy na jyst un peth. Mae pobl i ffwrdd o'u gwaith, 'da ni'n gorfod cefnogi nhw i ddod yn ôl i'r gwaith, i gael eu hyder nhw'n ôl. Felly mae'r impact yn fwy na mae bobl yn feddwl, dwi'n meddwl."

Mae ymgyrch 'Gyda ni, nid yn ein herbyn' gan y Grŵp Gwasanaethau Brys ar y Cyd yng Nghymru wedi ceisio tynnu sylw'r cyhoedd at yr heriau - ond gydag ymosodiadau yn dal ar ei fyny, mae Andy Davies yn teimlo bod rhai yn dal angen eu hatgoffa o'r neges.

Ychwanegodd: "'Da ni'n deall y frustrations i gyd, 'da ni'n teimlo fo'n hunain. Cofiwch 'da ni'm yna i gael ein assault-io gan neb, 'da ni'm yna i achosi problemau. 'Da ni yna i helpu a 'da ni'n stryglo efo'r teimlad bod ni methu 'neud o'n iawn."

Pynciau cysylltiedig