Urdd: Achos diogelwch yn cau dros 1,000 o seddi pafiliwn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Cannoedd o bobl yn chwilio am sedd ar ôl i broblem iechyd a diogelwch olygu y bu'n rhaid cau rhan o'r eisteddle yn y tri phafiliwn.

Mae dros 1,000 o seddi ym mhafiliynau Eisteddfod yr Urdd - hanner y capasiti - wedi gorfod cael eu cau oherwydd problem iechyd a diogelwch.

Cafodd y mudiad wybod ddiwedd wythnos ddiwethaf bod yr holl seddi ar oledd yn y tri phafiliwn ddim yn saff i'w defnyddio.

Daw hynny yn dilyn problem gydag eisteddle mewn digwyddiad gafodd ei osod gan yr un contractwyr sy'n darparu seddi'r eisteddfod.

Dywedodd yr Urdd eu bod yn "ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra", sydd wedi arwain at gannoedd yn ciwio y tu allan yn ystod y dydd.

'Diogelwch yw'r flaenoriaeth'

Disgrifiad o’r llun,

Bu cannoedd yn ciwio tu allan i'r pafiliynau yn ystod y dydd oherwydd mai ond nifer cyfyngedig oedd yn gallu mynd mewn

Dan drefn newydd eleni mae gan yr ŵyl dri phafiliwn llai, yn hytrach nag un mawr - rhan o'r amcan i roi "llwyfan i bawb".

Yn y tri phafiliwn mae'r seddi agosaf i'r llwyfan ar lefel gwastad, yn saff i'w defnyddio ac wedi bod yn llawn yn gyson yn ystod y dydd.

Ond dydy'r seddi y tu ôl iddyn nhw, sydd wedi eu codi ar sgaffaldau, ddim wedi bod ar gael oherwydd y broblem diogelwch.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r holl seddi ar oledd yng nghefn y pafiliynau wedi cael eu cau i ffwrdd

Mae hynny wedi arwain at giwiau hir y tu allan i'r pafiliynau, wrth i bobl geisio mynd i mewn i weld y perfformiadau.

Dywedodd un stiward ei bod hi fel "tun o sardîns" yn y seddi oedd ar gael tu mewn, ac mewn pafiliwn arall dim ond cystadleuwyr a rhieni rhai ysgolion ar y tro oedd yn cael mynediad.

Mewn datganiad fe ddywedodd yr Urdd: "Mae'r Urdd wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch ers dydd Gwener 27 Mai 2022 er mwyn sicrhau diogelwch seddau sydd ar oledd yn Eisteddfod yr Urdd.

"Ar hyn o bryd, nid oes modd defnyddio seddau sydd ar oledd yn ein tri phafiliwn hyd nes y clywir yn wahanol.

Disgrifiad o’r llun,

Does dim problem gyda defnyddio'r seddi gwastad, a'r rheiny felly wedi bod yn llawn am lawer o'r dydd

"Diogelwch ein teuluoedd sy'n ymweld â'r Eisteddfod yw ein blaenoriaeth.

"Fe fyddwn yn sicrhau fod holl gefnogwyr yn cael mwynhau'r cystadlu ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra sydd tu hwnt i'n rheolaeth."

Ychwanegodd cyfarwyddwr yr eisteddfod, Sian Eirian, eu bod yn gweithio "ddydd a nos" i geisio datrys y broblem cyn perfformiadau nes ymlaen yn yr wythnos.

Roedd y cwmni sydd wedi darparu'r seddi ar gyfer pafiliynau'r Eisteddfod hefyd wedi gosod eisteddle ar gyfer seremoni yr Horse Guards Parade yn Llundain ar gyfer y Jiwbilî ar 21 Mai, a bu digwyddiad yn ystod ymarferiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch eu bod yn "gweithio'n agos" gyda'r Urdd i ddatrys y broblem.

"Mae gwarchod diogelwch pobl a theuluoedd sy'n mynychu'r digwyddiad yn hollbwysig," meddai.