Heffrod yn marw ar ôl cael eu taro gan fellten
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr o dde Meirionnydd wedi colli tair heffer wedi iddyn nhw gael eu taro gan fellten wrth iddyn nhw gysgodi dan goeden.
Dywedodd Medwyn Evans bod y tywydd wedi troi'n arw yn ardal Fferm Gwerncaernyddion, rhwng Dyffryn Ardudwy a Llanbedr yng Ngwynedd rhwng 1300 a 1400 brynhawn Sul.
Fe alwodd milfeddyg, a gadarnhaodd mai'r fellten oedd achos tebygol marwolaeth y gwartheg Du Cymreig.
Roedd chwe heffer yn cysgodi dan y goeden ar y pryd, ac yn ôl Mr Evans fe gafodd y tri a oroesodd y fellten ddihangfa lwcus.
"Ddoth hi'n law trwm a mellt a tharanau amser cinio," meddai.
"Doeddwn i'm yn gw'bod ar y pryd ond pan es i fyny yn reit fuan yn y p'nawn mi oedd 'na dair heffar o dan y goeden wedi'i lladd.
"Mae hi i'w weld oedd y dair yma yn cyffwrdd y goeden, oedd na rhyw dair cangen reit fawr yn dod ohoni, a'u bod nhw i gyd o dan honna.
"Mae'n siŵr fod y lleill wedi cael get away am fod nhw ddim yn cyffwrdd hi."
Dim rhybudd ymlaen llaw
Mae'r digwyddiad yn un "reit anarferol", medd Mr Evans.
"Mae 'na Manganese a ballu yn yr ardal, sy'n tynnu mellt, ond 'rioed 'di digwydd yn y fan hyn o'r blaen.
"'Dwi 'di clywed storis o ddwy neu dair yn ei chael hi o'r blaen, yn mynd yn ôl hanner can mlynedd wrach, yn yr ardal yma.
"Mi fyddai'n gwneud yn siŵr fod 'na ddim byd yna pan fydd 'na fellt eto, ond chawson ni ddim rhybydd o flaen llaw fod na fellt a tharanau'n dod.
"Mae'n ymddangos fod y mellt wedi bod ar lefel lleol iawn."
Mae colli tari heffer ar fferm sy'n cadw "rhyw hanner cant o bennau i gyd" yn ergyd, medd Mr Evans.
"Mae gena'i lot o hen fuchod yn gorfod mynd rŵan ac yn trio cadw gymaint a galla'i, wedyn ydi mae hi'n glec - yn sicr be doeddwn i ddim isho'i glywed heddiw."