Morgannwg yn trechu Essex o chwe wiced yn y T20

  • Cyhoeddwyd
Michael Hogan yn dathlu cipio wicedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Hogan wedi cipio 12 o wicedi mewn pedair gêm yn y T20 ers dechrau'r tymor

Roedd yna fuddugoliaeth i gricedwyr Morgannwg nos Iau - o chwe wiced - yn erbyn Essex yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20.

Ar ôl galw'n gywir a gorfodi Essex i fatio gyntaf, 113 am naw wiced oedd y targed, diolch i fowlio campus Morgannwg.

Fe gipiodd Michael Neser a Michael Hogan dair wiced yr un - dyma oedd perfformiad gorau Neser yn y gystadleuaeth (3-13) ac mae Hogan bellach wedi cipio 12 o wicedi mewn pedair gêm.

Sam Northeast (44) oedd prif sgoriwr Morgannwg wrth iddyn nhw gyrraedd 114 gyda chwe wiced yn weddill.

Mae'n golygu bod Morgannwg wedi ennill ddwywaith a cholli ddwywaith yn y T20 ers dechrau'r tymor, ac mae'n nhw'n chwarae eto nos Wener - oddi cartref yn erbyn Gwlad yr Haf.

Pynciau cysylltiedig