Stormydd yn achosi llifogydd yng Nghricieth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn rhybuddio pobl i osgoi ardal Cricieth wedi i stormydd taranau, cenllysg a glaw achosi llifogydd yn yr ardal brynhawn Gwener.
Dywed y Gwasanaeth Tân bod y dŵr wedi effeithio ar sawl eiddo wrth i nifer o ddraeniau fethu ymdopi â llif y dŵr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 13:20. Bu'n rhaid cau nifer o ffyrdd.
Wrth siarad â'r BBC dywedodd Michelle Jones o gaffi Tir a Môr yn y dre bod y cyfan yn "hynod drist".
"Mae llifogydd ar stad Pen Aber ac mae wedi bod yn gryn frwydr i atal y dŵr rhag mynd i dai.
"Ry'n ni wedi cael cenllysg, taranau ac ychydig o fellt y prynhawn 'ma.
"Mae hi wedi bod yn eitha drwg - dwi'm wedi gweld hi fel hyn o'r blaen.
"Mae fy ngŵr a fi wedi bod yn helpu dyn oedd yn methu mynd i'w dŷ gan ei fod wedi cael ei amgylchynu gan ddŵr."
Dywedodd rheolwr gorsaf gyda'r gwasanaeth, Steve Harris, bod dreiniau wedi gorlwytho wedi storm fawr leol wnaeth bara am rai oriau yn ardal Criccieth o amser cinio ymlaen.
Cafodd tair injan dân eu hanfon i'r dref er mwyn pwmpio dŵr o dai a'r strydoedd.
Apeliodd ar bobl i sicrhau bod dreiniau eu tai yn glir ac i gadw golwg ar gymdogion bregus rhag ofn eu bod angen help