Crasfa i Forgannwg yng Ngwlad yr Haf yn y T20

  • Cyhoeddwyd
Will SmeedFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe gafodd Morgannwg eu chwalu nos Wener yn erbyn Gwlad yr Haf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20.

Enillodd y tîm cartref o naw wiced gyda 35 o belenni ar ôl, ar ôl batio'n gyntaf a sgorio 174-1.

Will Smeed oedd prif sgoriwr Gwlad yr Haf gyda 94 o rediadau heb fod allan.

173-7 oedd cyfanswm Morgannwg, gydag Eddie Byrom yn sgorio 37 o rediadau yn erbyn ei hen dîm.

Pynciau cysylltiedig