Dim ond 2,000 o docynnau i'r Wal Goch yn Qatar?

  • Cyhoeddwyd
Tîm Cymru wedi gem dydd SulFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bedyddiwyd cefnogwyr Cymru fel 'y Wal Goch' yn ystod pencampwriaeth Ewro 2016

Fe all cefnogwyr Cymru gael eu cyfyngu i gyn lleied â 2,000 o docynnau ar gyfer gemau Cwpan y Byd yn Qatar, yn ôl prif weithredwr y gymdeithas bêl-droed.

Wedi i'r tîm cenedlaethol lwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd, y disgwyl yw bydd miloedd o gefnogwyr yn gwneud y daith o Gymru ar gyfer y gystadleuaeth.

Gyda'r wlad yn un o'r rhai cyfoethocaf yn y byd, credir y bydd y trip yn un costus iawn i'r rhai sy'n teithio i lannau'r Gwlff.

Ond fe allai rhai cefnogwyr hefyd gael trafferthion sicrhau tocynnau i'r gemau, diolch i reol FIFA sy'n datgan mai ond 5% o'r stadiwm sy'n rhaid ei neilltuo i gefnogwyr y gwledydd sy'n cymryd rhan.

Disgwyl cadarnhad gan FIFA

Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru nid oes ffigwr penodol o ran faint o gefnogwyr disgwylir i deithio, ac mae'r gymdeithas eto i dderbyn y manylion ffurfiol gan FIFA.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd holl gemau grŵp Cymru yn cael eu chwarae yn Stadiwm Ahmad Bin Ali yn Al Rayyan ger Doha

Ond bydd y rheiny sydd eisoes wedi bod yn teithio dramor i ddilyn Cymru yn debygol o gael y cyfle cyntaf i brynu tocynnau.

Yn siarad ar Radio Wales fore Mawrth dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, eu bod yn gobeithio cyhoeddi manylion tocynnau yn nes ymlaen yr wythnos hon.

Bydd holl gemau grŵp Cymru yn cael eu chwarae yn Stadiwm Ahmad Bin Ali yn Al Rayyan ger Doha, fydd â chapasiti o 40,000 o gefnogwyr ar gyfer y bencampwriaeth.

Ond gyda'r gymdeithas yn disgwyl "miloedd" i deithio - a gorfodaeth ar FIFA i gynnig dim ond 5% o'r stadiwm i gefnogwyr Cymru - ychwanegodd y byddai trafodaethau yn cymryd lle dros y dyddiau i ddod.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Noel Mooney fod "hon yn her arbennig"

"Y ffordd y mae'n gweithio gyda phrotocolau FIFA yw mai dim ond tua 5% o'r stadiwm yr ydym yn ei gael, sy'n dal 40,000 dwi'n credu, ac yn fy marn i nid yw 5%o hynny'n llawer iawn," meddai Mr Mooney.

"Felly bydd yn rhaid i ni weithio gyda FIFA ar onglau eraill i geisio cael cymaint o docynnau ag y gallwn i'n cefnogwyr.

"Byddech chi'n gobeithio, yn mynd i Qatar, y byddem yn cael ychydig o filoedd ar gyfer pob un o'r gemau."

Ychwanegodd: "Byddwn yn rhoi gwybodaeth swyddogol allan yn ddiweddarach yr wythnos hon. Rydym yn cysylltu â FIFA bob awr ar hyn o bryd i gael ein holl fanylion.

"Mae hon yn her arbennig, yn enwedig gan ein bod y rhai olaf i gymhwyso. Mae yna 31 o wledydd wedi cael dibs ar bethau o'n blaen ni. Felly rydyn ni'n dod i mewn yn hwyr i'r parti... ond rydyn ni wedi cyrraedd a nawr mae'n rhaid i ni wneud y mwyaf ohono."

'Robio banc fydd hi!'

Bydd y cefnogwyr sy'n gwneud y daith angen sicrhau cerdyn 'Hayya', sydd gyfystyr â fisa i gael mynediad i'r wlad.

Gyda'r cerdyn ond ar gael i'r rheiny sydd gyda thocynnau i'r gemau, bydd hefyd yn galluogi trafnidiaeth gyhoeddus am ddim ar ddyddiau gemau.

Dywedodd Siân Thomas o Dudweiliog, sydd eisoes wedi sicrhau tocynnau i'r gystadleuaeth diolch i balot FIFA: "Gweithio lot o or-amser neu robio banc fydd hi i fynd i Qatar rwan!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Doha, a gweddill Qatar, yn ferw gwyllt yn ystod y gystadleuaeth a fydd yn cael ei chynnal rhwng 21 Tachwedd a 18 Rhagfyr

Gan gydnabod bod mynd i weld Cymru yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd yn fwy o ystyriaeth na'r balans banc, ychwanegodd: "O'n i'n crio pan aeth y chwiban neithiwr ac yn sbïo o gwmpas, oedd 'na lot yn crio.

"Mae'n dangos faint mae'n ei olygu i bobl sydd 'di bod yn gwylio Cymru a faint o siom da ni wedi'i gael dros yr holl flynyddoedd.

"Fydd o i gyd werth o dwi'n siŵr.

"Yr unig bechod ydi fod o mor bell ac un o'r llefydd drutaf i fynd.

"Yn amlwg mae 'na lot 'di marw yn adeiladu'r stadiymau a ballu, ond cyfle oes ydi o a mae llawer o gefnogwyr Cymru wedi disgwyl mor hir am hyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau o'r wal goch yn adnabyddus am deithio yn eu miloedd i gemau oddi cartref y tîm cenedlaethol

"Mae 'na lot 'di deud pan oeddan ni allan yng Ngwlad Pwyl wythnos dwytha, 'dwi'm am fynd, fedrai'm fforddio fo', ond neithiwr oeddan nhw i gyd yn deud yn hollol wahanol!"

Fel aelod ffyddlon o'r wal goch ac yn teithio dramor i wylio'r tîm cenedlaethol yn aml, dywedodd: "Mae'n golygu'r cyfan achos ma'n rhoi Cymru ar y map rhyngwladol dydi? Diwylliant ni, ein hiaith ni, mae pobl am ddallt da ni ddim yn rhan o Loegr... mae'n anhygoel, da ni ar fap y byd mawr.

"Mae'n deimlad swreal ond yn golygu'r byd i bawb."

'Ddim yn hawdd na rhad'

Yn ôl perchennog cwmni teithio o'r gogledd, fydd trefnu tripiau ddim yn hawdd.

"Mae'n anodd rhoi ffigwr arni ar y funud, ond mae'n deg i ddweud fydd o ddim yn drip rhad o gwbl i gefnogwyr," dywedodd Ann Jones o gwmni Teithiau Menai yng Nghaernarfon wrth Cymru Fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Ann Jones: "Trio cael yr atebion rydan ni ar y funud"

"Fydd hi ddim fel Ffrainc yn 2016, tydi Qatar ddim yn r'wla da ni'n dueddol o weld llawer yn teithio iddo - mae Abu Dhabi a Dubai yn lot mwy poblogaidd fel llefydd gwyliau.

"Dwi 'di bod yn trio cysylltu gyda'n suppliers heddiw ond mae'n swnio fel fydd hi ond yn bosib archebu gwestai fel rhan o becyn neu os oes tocynnau'r gêm ganddoch chi'n barod.

"Yn amlwg does 'na ddim gymaint a hynna tan Gwpan y Byd a fydd pawb isho gwbod, ond trio cael yr atebion da ni ar y funud.

"Da ni wedi cael awgrymiadau bydda Abu Dhabi yn haws fel man aros, ond mae fanno yn daith tua pum awr i ffwrdd ar y ffordd, ac yn codi problemau ei hun i gefnogwyr.

"I fod yn onest tydi o ddim am fod yn hawdd nac yn rhad i gyrraedd yna, ond da ni di cael dipyn o ymholiadau yn barod a dwi'n siŵr fydd na lot o ddiddordeb yr un fath."

Disgrifiad,

Dywedodd Tommie Collins y dylai teithio i Qatar fod yn "amser gorau fy mywyd" ond bod 'na "rwystredigaeth o ran y gost a llety"

Mae Tommie Collins o Borthmadog wedi bod yn dilyn tîm pêl-droed Cymru oddi cartref ers bron i 35 mlynedd, ac wedi bod dramor i'w gwylio dros 100 o weithiau.

Dywedodd y dylai teithio i Qatar fod yn "amser gorau fy mywyd" ond bod 'na "rwystredigaeth o ran y gost a llety".

'Mae 'na groeso cynnes dros ben'

Yn ôl y darlledwr Rhodri Ogwen Williams, sy'n byw yn Qatar ers deng mlynedd ac yn cadw gwesty yno, mae na "fwrlwm" yn y wlad.

"Mae gwestai, trafnidiaeth... mae pob peth i wneud gyda'r wlad wedi newid ac wedi newid i'r ochr orau, mae'n anhygoel beth sydd wedi digwydd yma i fod yn onest.

Ffynhonnell y llun, Rhodri Ogwen
Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Ogwen Williams: "Mae Qatar ymhlith y gwledydd mwyaf diogel yn y byd"

"Ry'ch chi ond rhyw bum munud o'r dŵr le bynnag ry'ch chi'n byw, mae Qatar hanner maint Cymru o ran tir ac mae 2.7 miliwn yn byw yma.

"Mae bywyd yn dda iawn yn Qatar, ac yn bwysicach oll y dyddiau hyn, mae ymysg y gwledydd mwyaf diogel yn y byd."

Ychwanegodd: "Dwi'n dal i fethu credu'r peth i fod yn hollol onest, roedd yna gymaint o awyrgylch yn un o'r tai bwyta yma, roedd 'na dros gant o gefnogwyr Cymru, Cymry Cymraeg hefyd... oedd y gêm yn wefreiddiol ond o'r diwedd Cymru'n cyrraedd.

"Dyma gyfle i Gymru ddangos i'r byd pwy y'n ni fel cenedl. Mae hyn yn gyfle arbennig a mae na groeso cynnes dros ben.

"O ran cael cefnogwyr mas yma, dwi am gael cyfarfod nawr i helpu i gael cefnogwyr Cymru i fewn i Qatar ac os allai helpu 500 mi wna'i helpu 500, ond fe fydd lle ac fe fydd pobl yn dod."

'Penderfyniad hawdd iawn'

Un arall sy'n bwriadu gwneud y daith i Qatar ydi Gary Pritchard, un o gefnogwyr pybyr Cymru o Fiwmares ar Ynys Môn.

Ffynhonnell y llun, Tommie Collins
Disgrifiad o’r llun,

Gary Pritchard (dde) gyda Tommie Collins, un arall o selogion Cymru oddi cartref

"Mae 'na bobl wedi gofyn y cwestiwn oherwydd lle mae o a pha mor ddrud mae o'n mynd i fod...ond unwaith mae Cymru wedi cyrraedd yno roedd yn benderfyniad hawdd iawn.

"Da ni di teithio ledled y byd yn cefnogi Cymru a dwi'm yn meddwl oedd na eiliad pan doeddan ni ddim am fynd i Qatar.

"Mae na 12 ohonon ni sydd 'di bod yn teithio'r byd gyda'n gilydd a da ni'n cael trafferth, ond yn dilyn cynnig Rhodri fydda'i ar y ffôn gyda fo!"