Cwpan y Byd am 'wneud gwahaniaeth aruthrol' i'r wlad

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru ar eu ffordd i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958

Bydd chwarae yng Nghwpan y Byd yn "gwneud gwahaniaeth aruthrol" i Gymru fel gwlad, yn ôl pennaeth cyfathrebu'r gymdeithas bêl-droed.

Dywedodd Ian Gwyn Hughes y bydd yn "codi'r wlad ym mhob persbectif" gan arwain at lwyfan ryngwladol "i'n hiaith, ein diwylliant a'n hanes".

Llwyddodd Cymru i drechu Wcráin o 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul, gan olygu y bydd y tîm yn mynd i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae gorfoledd wedi bod ar draws y wlad, a'r golygon eisoes yn troi at Qatar.

'Taith anhygoel'

Dywedodd Mr Gwyn Hughes ar Dros Frecwast fore Llun fod "y daith wedi bod yn anhygoel".

"Mae 'na lot o bobl - chwaraewyr a staff - sydd wedi bod ar y daith o'r cychwyn rhyw 10 mlynedd yn ôl pan ddaru ni gyd gael ein penodi gan Jonathan Ford [prif weithredwr CBDC ar y pryd].

"Wedyn Gary Speed yn cymryd drosodd a beth ddigwyddodd efo Gary, Chris Coleman a'r nosweithiau o golli yn Serbia 6-1 ac yn y blaen.

"Mewn 10 mlynedd 'dan ni wedi cyrraedd rowndiau terfynol yr Ewros ddwywaith, a rŵan, coroni'r cyfan a chyrraedd Cwpan y Byd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae defnydd cynyddol o'r Gymraeg wedi mynd law yn llaw â'r llwyddiant ar y cae

Ychwanegodd y bydd yr effaith ar broffil Cymru ar draws y byd yn enfawr - Cwpan y Byd ydy'r digwyddiad sy'n cael ei wylio gan y nifer fwyaf o bobl ar draws y byd.

"Fydd o'n gwneud gwahaniaeth aruthrol. Mae'r Ewros yn codi gwlad i ryw lefel, ond mae mwy o bobl yn gwylio Cwpan y Byd nac unrhyw beth," meddai Mr Gwyn Hughes.

"Ti ar y llwyfan rhyngwladol go iawn. 'Dan ni'n wlad fach o dair miliwn, a fydd pawb yn gwybod amdanom ni, achos 'dan ni'n chwarae yn erbyn gwledydd anferth.

"Mae o'n gyfle rŵan. Dwi'n credu weithiau ein bod ni wedi cael ein dal yn y gorffennol, fel pan aethon ni i'r Ewros yn 2016 - nid jest y gymdeithas ond Cymru fel gwlad - be' ydy'r budd sy'n dod o rywbeth fel hyn.

"So mae'n rhaid i bawb baratoi rhwng rŵan a mis Tachwedd i fanteisio ar y cyfle yma a rhoi Cymru ar y map.

"Wrth gwrs, mae'n dod ag arian, mi ddaw â mwy o nawdd ac yn y blaen, ond mae'n rhoi proffil i Gymru ac mi ddylai mwy a mwy o bobl wybod am Gymru, ein hiaith, ein diwylliant a'n hanes.

"Mae'n codi'r wlad ym mhob persbectif dwi'n meddwl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Dan ni'n wlad fach o dair miliwn, a fydd pawb yn gwybod amdanom ni," meddai Ian Gwyn Hughes

Ar yr un rhaglen dywedodd y sylwebydd Nic Parry, fu'n arwain sylwebaeth S4C nos Sul, fod cyrraedd pinacl y byd pêl-droed yn "benllanw prosiect ar y cae ac oddi ar y cae".

"Oedd 'na 3.8 biliwn o bobl yn gwylio Cwpan y Byd y tro diwethaf iddi gael ei chynnal - hanner poblogaeth y byd," meddai.

"Wrth y bwrdd yna nawr mae baner Cymru.

"Mae Noel Mooney, y prif weithredwr newydd, wedi cael y profiad fel Gwyddel - mae o wedi tanlinellu dros yr wythnosau diwethaf 'allwch chi ddim coelio sut mae proffil ac ymwybyddiaeth o Iwerddon wedi codi o fod wedi cael bod i Gwpan y Byd'.

"Allwn ni 'mond dychmygu y bydd o, a bydd pobl ddim yn gofyn bellach 'Ble mae Cymru? Ydy Cymru'n rhan o Loegr?'

"Mae Cymru yno fel Cymru, ac mae'r byd yn mynd i weld hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Cymru yn canu Yma o Hyd ddydd Sul - anthem answyddogol Cymru erbyn hyn!

Ychwanegodd Nic Parry fod cefnogaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru i'r Gymraeg wedi bod yn anferth, a bod mwy o ddefnydd o'r Gymraeg wedi mynd law yn llaw â'r llwyddiant ar y cae.

"Ar ddiwedd y gêm, oedd yr arwyddon yn fflachio 'Diolch am eich cefnogaeth' - uniaith Gymraeg am gyfnodau," meddai.

"Mae'n rhan o'r prosiect - mae wedi bod yn brosiect oddi ar y cae.

"Mae 'na bethau i gampau eraill ddysgu heb unrhyw amheuaeth.

"Mae cenedlaetholdeb a phêl-droed Cymru bellach yn plethu, ac mae hynny'n glod aruthrol i'r gymdeithas bêl-droed.

"Ond fyddai o ddim yn effeithiol heb i'r chwaraewyr ar y cae wneud eu rhan nhw."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Eirian Dafydd

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Eirian Dafydd

Mae defnydd o'r Gymraeg yn sgil y tîm pêl-droed yn ehangu tu hwnt i'r gymdeithas bêl-droed, a thu hwnt i ffiniau'r wlad hyd yn oed, i'r cyfryngau dros y ffin.

Y pennawd ar gefn papur newydd i ar draws y DU ddydd Llun oedd, yn Gymraeg, "Mae Cymru yn mynd i Qatar!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Iwan ei fod "erioed 'di clywed y fath ganu"

Un o'r delweddau sy'n dangos hynny fwy nag unrhyw ddelwedd arall oedd Dafydd Iwan yn canu ar y cae gyda'r chwaraewyr yn ystod y dathliadau yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae yntau yn credu fod "rhywbeth arbennig yn digwydd" i'r wlad a'r iaith yn sgil llwyddiant y tîm cenedlaethol.

"Dwi 'rioed 'di clywed y fath ganu. Oedd hi'n arbennig o dda y tro diwethaf, ond ddoe, oedd pob un o'n i'n gallu gweld yn y wal goch 'na yn canu a'i holl galon," meddai ar Dros Frecwast fore Llun.

"Mae o'n lawer mwy na phêl-droed - mae be' mae'r gymdeithas bêl-droed yng Nghymru wedi'i wneud yn wyrth.

"Maen nhw wedi meithrin dros y blynyddoedd diwethaf 'ma y syniad bod y tîm cenedlaethol yn cynrychioli cenedl a'i hanes.

"Maen nhw'n credu hynny, ac maen nhw'n chwarae fel tasen nhw'n credu hynny.

"Roedd cymaint o Gymry di-Gymraeg yn siarad gyda fi ddoe yn dweud mor falch oedden nhw o fod yn gallu canu cân Gymraeg a bod yn rhan o'r bwrlwm."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Iwan yn ysgwyd llaw Gareth Bale ar y cae ar ddiwedd y gêm

Ychwanegodd fod cael dychwelyd i'r cae i ganu gyda'r tîm wedi bod yn brofiad "bendigedig".

"Mae 'na rywbeth arbennig yn digwydd yn sgil y pêl-droed 'ma, ac mae'n wych i fod yn rhan o hynny."

Disgrifiad,

Dywedodd Ian Gwyn Hughes fod Dafydd Iwan yn canu ar y cae gyda'r garfan o'i amgylch yn "un o'r delweddau mwyaf anhygoel"

Dywedodd Ian Gwyn Hughes fod Dafydd Iwan yn canu ar y cae gyda'r garfan o'i amgylch yn "un o'r delweddau mwyaf anhygoel" yr ymgyrch a'r noson.

"Oherwydd natur y gân, ti ddim yn gwybod os ydy pawb am ei derbyn hi, ond mae'r cefnogwyr wedi ei bod yn canu hi'n naturiol," meddai.

"So dyma ni'n penderfynu 'nawn ni wahodd Dafydd i ganu'. Oedd y tro cyntaf yn wych, ond oedd neithiwr hyd yn oed yn well.

"Mi oedd pobl yn gwybod beth i'w ddisgwyl a mwy o bobl yn ymwybodol o'r geiriau ac yn y blaen.

"Ar y diwedd, pan wnaed y penderfyniad i ddod â Dafydd 'nôl lawr - dwi'n meddwl oedd Dafydd yn meddwl ein bod ni'n tynnu ei goes o!

"Ar y cae yn canu gyda'r tîm, oedd o'n un o'r delweddau mwyaf anhygoel, a fyset ti byth wedi dychmygu gweld hynny ar gae pêl-droed.

"Mi oedd o'n anhygoel - un o'r eiliadau emosiynol mawr 'na."