Cwpan y Byd: Gorfoledd ar draws Cymru wedi'r fuddugoliaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru gyfan yn gorfoleddu ar ôl sicrhau lle yng Nghwpan y Byd Qatar 2022.
Fe wnaeth y fuddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Wcráin nos Sul greu hanes gyda Chymru'n cyrraedd y rowndiau terfynol am y tro cyntaf ers 1958.
Roedd hi'n brynhawn emosiynol yn y brifddinas gydag 'Yma o Hyd' yn atseinio rhwng cefnogwyr Cymru a Wcráin.
Mae gorwelion y chwaraewyr a'r cefnogwyr bellach wedi'u troi at Qatar ac mae 'na gryn edrych ymlaen.
Bale: 'Darn olaf y jig-so'
Wrth siarad â BBC Radio Wales wedi'r gêm, dywedodd Gareth Bale - a sgoriodd yr unig gôl - bod y fuddugoliaeth yn un "anhygoel".
"Mae'n anodd dod o hyd i'r geiriau. Dyma beth ry'n ni wedi gweithio amdano ar hyd ein gyrfaoedd ac mae gwneud hyn ar gyfer y cefnogwyr, y genedl, ein hunain a'n teuluoedd yn gamp anhygoel, a mi fydd yn rhywbeth y byddwn ni'n falch ohono am byth.
"Mae'n golygu popeth. Dyma ddarn olaf y jig-so yr oedden ni gyd ei eisiau ac ry'n ni'n mynd i ddathlu'n dda heno."
'Cymru fach yng Nghwpan y Byd'
Ychwanegodd yr amddiffynnwr, Ethan Ampadu, fod y gêm wedi bod yn un heriol.
"Roedd yr ail hanner siŵr o fod yn un o'r rhai mwyaf heriol ry'n ni wedi ei gael, efallai yr ail hanner gwaethaf ry'n ni wedi cael.
"Ond, allwn ni ddim cwyno. Ry'n ni'n mynd i Gwpan y Byd, a dyna'i gyd sy'n bwysig."
Dywedodd canolwr Cymru, Aaron Ramsey, wrth Sky Sports: "Mae'n anhygoel, Cymru fach yng Nghwpan y Byd!"
Ymateb cyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts, ar Radio Cymru oedd: "Dan ni 'di cael torcalon mwy nag unwaith.
"Mae'n hen bryd i Gymru a'r genedl gael y teimlad 'dyn ni gyd yn ei deimlo 'wan!"
Canmol arbedion Wayne Hennessey oedd cyn-chwaraewr Cymru, Kath Morgan: "Y gwir yw, mae e wedi bod yn arwrol heddiw.
"Mae e 'di cael adeg eitha' anodd fel mae e, 'di cael wythnosau heb chwarae i glwb a wedyn gorfod dod fan hyn a chwarae fel rhif 1 a wedyn colli safle."
Dywedodd ei bod yn gobeithio y gall Hennessey deimlo "rhyddhad yn ei hunain ei fod e wedi gallu cyfrannu mor fawr i'r gêm yma ac anfon y tîm i Gwpan y Byd".
Fore Llun dywedodd Sioned Dafydd, oedd yn rhan o dîm cyflwyno Sgorio ar S4C ei bod "dal ffaelu credu bod e wedi digwydd".
"Noson o ran gwaith, ond hefyd fel cefnogwr, 'neith e aros gyda fi am byth," meddai ar Dros Frecwast.
"Nawr ni'n gweld yr holl waith caled wnaeth ddechrau 10 mlynedd 'nôl, yn enwedig pan ti'n gweld y chwaraewyr ifanc yma yn dod trwyddo.
"Mae'r dyfodol yn edrych mor gyffrous."
Wrth i'r cefnogwyr adael y stadiwm yn eu miloedd nos Sul, roedd 'na anghrediniaeth ymysg rhai.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Iwan Rowlands: "Mae'n anhygoel beth sydd wedi digwydd i ni.
"Mae'n anhygoel beth mae'r gymdeithas a'r chwaraewyr wedi 'neud. [Roedd hi'n] brofiad anhygoel i fod yno heno."
'Dan ni yma o hyd!'
Dywedodd cefnogwr arall, Cledwyn Ashford, ei fod yn "ddiawledig o bles!"
"O'n i'n chwech oed yn 1958... ddaru iddyn nhw chwarae mor dda. 'Dan ni yma o hyd!"
Fe gododd y rheiny nad oedd yn gallu bod yn y stadiwm ddigon o dwrw ar draws Cymru.
"Mae'n grêt. Dwi'm cweit wedi ei gymryd o fewn yn iawn," meddai un cefnogwr yn Nhafarn yr Hawk and Buckle yn Llanefydd ger Dinbych.
"Dwi'm yn meddwl bo' fi erioed 'di gweld 1-0 mor ddramatig â hynna ond brilliant... neis dod allan ar y brig," dywedodd un arall.
"Gêm anodd, dw i'n meddwl oedd Ben Davies, Wayne Hennessy, Neco Williams yn anhygoel."
Wrth i 'Viva Gareth Bale' atseinio dros y dafarn, bloeddiodd un cefnogwr arall: "Qatar amdani!"
Fe gododd y cefnogwyr £200 ar y noson i ffoaduriaid Wcráin ac mae tudalen wedi ei chreu i gasglu rhagor.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Gair o longyfarch oedd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford i dîm Cymru, a neges o nerth i Wcráin wrth i Rwsia barhau i ymosod ar y wlad.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart ei fod yn anfon ei "gydymdeimlad â'n ffrindiau o Wcráin," a bod Cymru "yn dal wrth eich hochr".
Awyrgylch 'cynnes iawn'
Fe rannodd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru 100 o docynnau ychwanegol i'r gêm i ffoaduriaid o Wcráin.
Roedd Kateryna Gorodnycha yn y stadiwm, a dywedodd er i'w gwlad fethu â sicrhau buddugoliaeth fod y profiad wedi bod yn un "cynnes".
"Roedd hwn wir yn le arbennig," dywedodd Kateryna ar ôl gadael y stadiwm.
"Yn y diwedd, pan na wnaeth ein tîm ni ennill, dyna oedd y tro cyntaf i dîm arall ddod at gefnogwyr Wcráin a dweud 'diolch' wrthon ni a dywedon ni 'diolch am gael dod i le da am gêm dda'.
"'Dw i erioed wedi cael gymaint o gofleidio ar ôl gêm... a chefnogwyr Cymru'n dod draw aton ni a dweud 'dim ond gêm yw hi'.
"Roedd e'n gynnes, yn gynnes iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2022