Morgannwg yn colli i Sir Gaerloyw o bum wiced yn y T20
- Cyhoeddwyd
Cafodd Morgannwg eu trechu o bum wiced gan Sir Gaerloyw yng Ngerddi Sophia nos Fawrth yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20.
Morgannwg wnaeth batio'n gyntaf wedi i Sir Gaerloyw alw'n gywir a phenderfynu maesu.
Sgoriodd y capten David Lloyd 68 o'r rhediadau, oddi ar 43 o belenni, wrth iddyn nhw gyrraedd cyfanswm o 158 am wyth wiced.
James Bracey (63) oedd y prif sgoriwr i'r ymwelwyr wrth iddyn nhw gyrraedd y targed o 159 gyda phelawd i fynd.
Mae Morgannwg wedi sicrhau pum pwynt wedi saith gêm, a'r Hampshire Hawks yw'r gwrthwynebwyr nesaf - eto yng Ngerddi Sophia - nos Wener.