T20: Morgannwg yn colli i Hampshire yng Ngerddi Sophia

  • Cyhoeddwyd
Kiran Carlson o ForgannwgFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kiran Carlson o Forgannwg yn wynebu pêl Tom Prest o Hampshire Hawks

Dim ond naw rhediad oedd ynddi wrth i'r Hampshire Hawks ymweld a Gerddi Sophia nos Wener.

Ond yn anffodus i Forgannwg, yr ymwelwyr aeth a hi wedi diweddglo cyffrous yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20.

Roedd yr ymwelwyr wedi gosod targed o 134 rhediad gyda Joe Weatherley yn sicrhau 46 o'r rheiny.

Ond wrth i Forgannwg anelu at wella cyfanswm Hampshire, bowlwyd allan eu captain, David Lloyd, bron yn syth.

Wedi hynny bowlwyd allan Kiran Carlson ac Eddie Byrom bron yn syth wedi'i gilydd, gan wneud tasg y tîm cartref hyd yn oed yn anoddach.

Ond er ymdrechion Sam Northeast (36), nid oedd yn ddigon ar y noson wrth i Hampshire sicrhau'r fuddugoliaeth.

Pynciau cysylltiedig