Morgannwg yn trechu Sussex yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Colin Ingram ac Edward ByromFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Colin Ingram ac Edward Byrom oedd dau o sêr Morgannwg yn y fuddugoliaeth yng Nghaerdydd

Mae Morgannwg wedi cael hwb i'w gobeithion o ennill dyrchafiad i Adran Gyntaf Pencampwriaeth y Siroedd ar ôl trechu Sussex yng Nghaerdydd.

Llwyddodd Sussex i gael cyfanswm calonogol yn eu batiad cyntaf, gan gael eu bowlio allan am 376 gydag Oli Carter yn serennu gyda sgôr o 185, ac Andrew Salter yn cymryd pedair wiced i'r tîm cartref.

Ond fe wnaeth Morgannwg ymateb yn wych, gydag Edward Byrom (176) a Colin Ingram (178) yn eu harwain at gyfanswm o 494 yn eu batiad cyntaf nhw.

Wedi i Sussex gael eu cyfyngu i 258 yn eu hail fatiad, gosodwyd targed o 141 am y fuddugoliaeth i Forgannwg, ond dim ond 43 pelawd oedd yn weddill ar y diwrnod olaf.

Fe lwyddon nhw i wneud hynny gyda bron i bedair pelawd - a phum wiced - yn weddill, gyda Sam Northeast a Kiran Carlson yn sgorio 45 rhediad yr un.

Pynciau cysylltiedig