Therapi PTSD ar-lein i 'arbed amser ac arian' i'r GIG

  • Cyhoeddwyd
MenywFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd triniaeth PTSD ar-lein yn arbed amser ac arian i'r GIG

Mae astudiaeth newydd yn awgrymu bod therapi ar-lein yr un mor effeithiol â therapi wyneb yn wyneb wrth drin pobl â PTSD.

Mae'r canfyddiadau, a welwyd gan y BBC, yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau yn y British Medical Journal.

Dywed awduron y gallai'r gofal newydd hwn arbed amser ac arian i'r GIG, yn ogystal â bod â'r potensial i leihau rhestrau aros.

Mae hynny am fod y broses yn cymryd traean o'r amser a gymerai i wneud cwrs safonol o therapi wyneb yn wyneb.

Mae'r driniaeth eisoes wedi'i chyflwyno ar draws rhannau o'r GIG yng Nghymru.

Bydd rhannau o GIG Yr Alban yn ei defnyddio ym mis Awst, ac mae trafodaethau'n parhau gyda rhannau eraill o wasanaeth iechyd y DU.

'Doeddwn i ddim yn fi fy hun'

Ar ôl i rywun ymosod arni, newidiodd personoliaeth a bywyd Sarah yn llwyr.

"Fe wellodd yr anafiadau corfforol yn weddol gyflym, fe gymerodd hi fwy o amser i ddod dros effaith emosiynol popeth," meddai.

"Dechreuais i deimlo'n bryderus iawn... doeddwn i ddim yn gallu setlo, nosweithiau di-gwsg, doeddwn i ddim yn bwyta'n iawn, doeddwn i ddim eisiau mynd allan ond doeddwn i ddim eisiau aros gartref.

"Doeddwn i ddim yn fi fy hun... doeddwn i ddim yn teimlo'n ddiogel yn unman a dweud y gwir."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl i rywun ymosod arni, newidiodd personoliaeth a bywyd Sarah yn llwyr

Cafodd y newid effaith hefyd ar ei pherthynas â'i merch fach.

"Dechreuais gyfyngu ar ein gweithgareddau cymdeithasol a doeddwn i ddim eisiau mynd i unrhyw le gyda phobl eraill o gwmpas.

"Rwy'n ei chofio'n gofyn i mi: 'Mam, pam wyt ti mor drist?' Mae hynny'n anodd pan fydd plentyn bach yn dweud hynny."

Cafodd Sarah ddiagnosis o PTSD - neu anhwylder straen wedi trawma - gan ei meddyg teulu.

Ond gyda'r rhestr aros am therapi mor hir, cynigiwyd y cyfle iddi fod yn rhan o driniaeth newydd oedd yn cael ei threialu.

Astudiaeth Prifysgol Caerdydd

Roedd Sarah yn un o 196 o gleifion a gymerodd ran mewn astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd a oedd yn digwydd dros bedair blynedd.

Rhannwyd y garfan yn ddau grŵp. Derbyniodd un hanner - gan gynnwys Sarah - y driniaeth hunangymorth ar-lein newydd dan arweiniad, a chafodd yr hanner arall therapi wyneb yn wyneb yn unig - sef y safon aur ar gyfer trin PTSD.

Ar ôl 16 wythnos nid oedd gan fwy nag 80% o bobl yn y ddau grŵp PTSD mwyach.

Roedd hyn yn dystiolaeth, yn ôl awduron yr astudiaeth, bod y dull newydd hwn yr un mor effeithiol â therapi wyneb yn wyneb.

Dywed yr awduron y gall y cwrs triniaeth newydd gymryd tua thraean o amser gofal therapi yn unig, a gall y rhaglen ar-lein, o'r enw Spring/Gwanwyn, gael ei defnyddio gan gleifion o'u cartref eu hunain.

Mae ychydig o gyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda therapydd yn dal yn rhan o'r broses - ond yn llawer llai na'r hyn sydd ei angen fel arfer.

Hynny yw, gallai'r pwysau cost ac amser ar y GIG gael eu lleihau'n sylweddol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Jon Bisson mai'r nod ydy datblygu triniaethau sydd "yr un mor effeithiol ac sy'n costio llai"

Yr Athro Jon Bisson, o Brifysgol Caerdydd, oedd prif awdur yr astudiaeth.

"Canfyddiad arall yn ein hastudiaeth oedd bod ei gost gryn dipyn yn llai na therapi wyneb yn wyneb, ac yn amlwg gyda'r problemau adnoddau o fewn y GIG ar hyn o bryd, yr hyn yr ydym am ei ddatblygu yw triniaethau sydd yr un mor effeithiol ac sy'n costio llai i'r GIG," meddai.

"Credwn pe bai'r driniaeth hon yn cael ei chyflwyno i'r GIG y gallem drin mwy o bobl mewn cyfnod byrrach, felly gallai'r rhestr aros am driniaethau o'r fath leihau."

Er bod yr Athro Bisson yn rhybuddio efallai na fydd y driniaeth hon yn addas i bawb, fel y rhai sydd â PTSD yn gysylltiedig â mwy nag un digwyddiad, i bobl fel Sarah y cafodd ei salwch ei sbarduno gan un digwyddiad, fe allai newid bywyd.

Pynciau cysylltiedig