Ffilm am ffermwr o Gymru'n ennill gwobr ryngwladol

  • Cyhoeddwyd
Wilf DaviesFfynhonnell y llun, Christian Cargill
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wilf Davies yn ffermio ar ben ei hun yng Nghellan ac yn bwyta'r un swper bob nos

Mae ffilm am ffermwr ar gyrion Llanbedr Pont Steffan wedi ennill gwobr y rhaglen ddogfen fer orau yng Ngŵyl Ffilm Tribeca yn Efrog Newydd.

Mae Heart Valley yn portreadu diwrnod ym mywyd Wilf Davies, 73, o Gellan - ffermwr defaid sy'n byw ar ben ei hun.

Yn y rhaglen nodir nad yw Mr Davies bron byth yn gadael ei gartref a'i fod yn mwynhau union yr un swper bob nos sef pysgod, ffa pob, nionod ac wy wedi'i ffrio.

Cafodd y ffilm fer ei chyfarwyddo gan Christian Cargill, ac wrth nodi ei llwyddiant dywedodd llefarydd ar ran Gŵyl Tribeca bod y "rhaglen yn cyflwyno nifer o wersi am bwysigrwydd bywyd syml, gwneud y gwaith ry'n ni'n ei fwynhau ac ystyr bywyd".

Ffynhonnell y llun, Heart Valley
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffilm yn dangos prydferthwch byd natur a chefn gwlad Cymru, a pha mor fodlon ydy Wilf gyda symlder ei ffordd o fyw

Pan gafodd y rhaglen ddogfen ei henwebu dywedodd Mr Cargill ei fod yn credu y byddai'r ffilm yn taro tant gyda phobl ar ôl y pandemig.

"Mae Wilf Davies yn hollol ddigyswllt. Does ganddo fe ddim ffôn na'r we," meddai.

"Mae'n byw bywyd sydd bron yn Fictorianaidd. Pan oedd pobl yn gaeth yn eu cartrefi a'u fflatiau, roedd pawb yn dyheu i gael dianc a chael lle.

"Mae Wilf yn gwerthfawrogi bob munud o'i fywyd.

"Mae'n teimlo gymaint o ddiolchgarwch ac yn falch ei fod e'n cael bod yn rhydd mewn cae bob dydd."

Fe sefydlwyd Gŵyl Ffilmiau Tribeca gan Robert de Niro, Jane Rosenthal a Craig Hatkoff yn 2002 fel ffordd o adfywio Manhattan Isaf yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol yn 2001.

Mae gan yr ŵyl gysylltiad ag Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.