Tri achos arall o'r diciâu wedi marwolaeth myfyriwr

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd nifer eu sgrinio wedi marwolaeth myfyriwr yn Llanbed yn Hydref 2021

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn ymchwilio i dri achos ychwanegol o'r diciâu (TB) ar ôl marwolaeth myfyriwr o Lanbedr Pont Steffan ym mis Hydref 2021.

Er y farwolaeth mae tîm rheoli achosion amlasiantaeth wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gadarnhau cysylltiadau â'r myfyriwr fu farw.

Wedi i nifer gael eu sgrinio dywed yr awdurdodau bod gan y tri unigolyn gysylltiadau agos â'r myfyriwr a'u bod yn cael "triniaeth briodol".

Ychwanegodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y risg i gymuned y brifysgol, ac i drigolion lleol, yn isel iawn.

'Anodd trosglwyddo TB'

Meddai Dr Brendan Mason, ymgynghorydd rheoli clefydau trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae ein hymchwiliadau wedi dangos bod gan y tri unigolyn sydd â TB gweithredol gysylltiad agos â'r person a fu farw ym mis Hydref 2021.

"Mae'n anodd trosglwyddo TB. Mae angen cysylltiad agos a hir ag unigolyn heintus, er mwyn i berson gael ei heintio.

"Rydym wedi nodi holl gysylltiadau agos y person a fu farw ac maent yn cael y sgrinio TB a'r gweithredu dilynol angenrheidiol.

"Mae gwaith yn parhau i nodi cysylltiadau agos y tri achos o TB gweithredol, a bydd pob un ohonynt yn cael ei wahodd i gael sgrinio TB gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

"Fodd bynnag, rydym yn annog pawb i fod yn ymwybodol o symptomau TB. Os oes gennych symptomau, rydym yn eich cynghori i siarad â'ch meddyg teulu, a all roi'r cyngor priodol i chi a'ch atgyfeirio i gael sgrinio TB os oes angen."

Mae symptomau TB gweithredol yn cynnwys:

  • Peswch parhaus sy'n para am fwy na thair wythnos ac sydd fel arfer yn creu fflem, a all fod yn waedlyd;

  • Colli pwysau;

  • Chwysu yn ystod y nos;

  • Tymheredd uchel (twymyn);

  • Blinder;

  • Colli archwaeth;

  • Chwyddo yn y gwddf.