Llwyddiant i Forgannwg er gwaethaf ymdrechion Sussex

  • Cyhoeddwyd
Dan Douthwaite a James Weighell yn dathluFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd hi'n ddiweddglo cynhyrfus yng Ngherddi Soffia wrth i fowlwyr Sussex geisio rhwystro Morgannwg rhag cipio buddugoliaeth yn y Vitality Blast.

Roedd Sussex wedi gosod nod o 150 rhediad i fatwyr Morgannwg.

Fe ddechreuodd batiad y tîm cartref yn dda gyda Colin Ingram a Sam Northeast yn sicrhau partneriaeth o 86 am yr ail wiced.

Ond yna gyda Tymal Mills a Ravi Bopra yn bowlio i'r ymwelwyr erbyn y ddeunawfed belawd roedd buddugoliaeth Morgannwg yn ymddangos yn fregus iawn a hwythau 132 am 6.

Yn y belawd olaf ond un wedi taran o ergyd gan James Weighell yn sicrhau chwe rhediad fe gafodd Morgannwg fuddugoliaeth o bedair wiced.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Colin Ingram yn sicrhau llwyddiant i Forgannwg yn erbyn Sussex

Mae Morgannwg yn parhau yn chweched yn nhabl Grŵp y De gydag wyth pwynt ar ôl deg gêm.

Mae ganddynt obaith camu i'r rownd nesaf o hyd felly wrth iddynt wynebu Middlesex ddydd Mawrth nesaf.

Y sgôr terfynol - Morgannwg 151-6 Sussex 149-8 .

Pynciau cysylltiedig