Diffoddwyr yn delio â thân ar Fynydd Bangor
- Cyhoeddwyd

Mae tua 20 o swyddogion yn delio gyda thân ar Fynydd Bangor.
Fe dderbyniodd y gwasanaethau brys nifer o alwadau gan y cyhoedd o 17:22 ymlaen ynghylch fflamau ar y llethrau uwchben Stryd Fawr y ddinas.
Mae tua 400 metr sgwâr o eithin a rhedyn ar dân.
Mae tri chriw tân yn ymateb i'r sefyllfa ynghyd ag uned tân gwyllt arbenigol, gan chwistrellu dŵr dan bwysedd uchel ar y fflamau.
Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolI osgoi neges X gan North Wales Fire #DiogeluCymru #KeepWalesSafeNid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges X gan North Wales Fire #DiogeluCymru #KeepWalesSafe