Batiad campus gan Forgannwg i drechu Middlesex

  • Cyhoeddwyd
David LloydFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y capten David Lloyd a rannodd bartneriaeth gofiadwy gyda Sam Northeast

Mae Morgannwg wedi trechu Middlesex yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20, diolch i bartneriaeth wych y batwyr agoriadol.

Sgoriodd David Lloyd a Sam Northeast 150 o rediadau rhyngddyn nhw cyn i Lloyd golli wiced gyntaf Morgannwg mewn ymateb i sgôr Middlesex, sef 171-7.

Dyna'r bartneriaeth orau erioed gan Forgannwg yn y gystadleuaeth, gan guro'r record flaenorol o 141 a gafodd ei gosod gan Colin Ingram a Jacques Rudolph.

Penderfynodd Morgannwg i faesu ar ôl galw'n gywir.

Max Holden (58) a Joe Cracknell (33) sgoriodd y nifer fwyaf o rediadau i Middlesex, ac fe gipiodd Michael Hogan tair o'r wicedi am 28 o rediadau.

67 oddi ar 36 o belenni oedd sgôr Lloyd pan gollodd ei wiced ar 150-1 ac fe gyrhaeddodd Northeast 89 o rediadau oddi ar 46 o belenni cyn colli ei wiced yntau ar 167-2.

Mater bach oedd hi wedyn i Colin Ingram a Kiran Carlson sgorio'r hyn roedd ei angen i gyrraedd y nod gydag wyth wiced yn weddill.

Pynciau cysylltiedig