Disgwyl stormydd o daranau i daro Cymru ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i stormydd o daranau daro rhannau o Gymru ddydd Iau.
Er gwaethaf y tywydd braf ar ddechrau'r wythnos, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn rhwng 10:00 a hanner nos.
Mae glaw trwm yn debygol o daro rhannau o'r dwyrain yn bennaf, gyda hyd at 40mm o law i ddisgyn o fewn awr mewn rhai llefydd.
Y siroedd sy'n debygol o gael eu heffeithio ydy:
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Caerffili
Caerdydd
Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Sir Fynwy
Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr
Powys
Rhondda Cynon Taf
Torfaen
Wrecsam