Penodi Carolyn Hitt yn olygydd newydd BBC Radio Wales

  • Cyhoeddwyd
Carolyn Hitt

Mae Carolyn Hitt wedi cael ei phenodi i fod yn olygydd nesaf BBC Radio Wales a Chwaraeon BBC Cymru.

Bydd y darlledwr, awdur, cynhyrchydd annibynnol a cholofnydd yn dechrau yn y swydd ym mis Awst.

Mae hi'n olynu Colin Paterson, sydd wedi ei benodi'r Uwch Arweinydd Hwb Sain newydd y BBC ar gyfer Cymru a Gorllewin Lloegr.

Dywedodd bod y cyfle i weithio "gyda thalent gwych Radio Wales ac adran Chwaraeon BBC Cymru i ysbrydoli, ymgysylltu a chyffroi'r gynulleidfa yng Nghymru - yn ei holl amrywiaeth anhygoel - yn fraint anferthol".

Bydd Ms Hitt, sy'n hanu o Lwynypia, yn Y Rhondda, hefyd yn gyfrifol am holl gynnwys digidol Saesneg BBC Cymru ar ap BBC Sounds, ac yn cymryd yr awenau wrth i'r gorfforaeth baratoi ar gyfer gemau Cymru ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd.

Mae hi wedi arloesi yn y byd cyfryngau chwaraeon gan taw hi oedd y fenyw gyntaf i ennill:

  • gwobrau Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn yng Nghymru ac yna drwy'r DU yn 1998;

  • Newyddiadurwr y Flwyddyn y Welsh Sports Hall of Fame; a

  • Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn yng Ngwobrau Cymdeithas y Golygyddion ar gyfer y Wasg Rhanbarthol yn 2016.

Dechreuodd ei gyrfa gyda'r Western Mail, gan ddod yn Olygydd Nodwedd. Enillodd wobr Awdur Nodwedd Cymreig y Flwyddyn cyn symud i'r byd darlledu.

Ymunodd â'r cwmni cynhyrchu annibynnol Presentable cyn mynd ymlaen, yn 2012, i fod yn un o sylfaenwyr cwmni Parasol Media.

Fel cynhyrchydd annibynnol mae hi wedi datblygu perthynas greadigol gyda Radio Wales am dros 20 mlynedd, gan gynhyrchu rhaglenni dyddiol a wythnosol byw, rhaglenni dogfen, cyfresi ffeithiol a sioeau comedi.

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales ei bod yn dod "â chyfoeth o brofiad a chreadigrwydd i'r rôl hollbwysig hon".

Ychwanegodd: "Mae ganddi angerdd anhygoel am straeon a chynnwys apelgar, ac rwy'n gwybod y bydd hi'n ychwanegiad gwych i'r tîm wrth i ni edrych ymlaen at bennod hynod gyffrous."

Pynciau cysylltiedig