Penodi Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi mai Dafydd Meredydd sydd wedi ei benodi yn Bennaeth Gwasanaethau Cymraeg y gorfforaeth.
Bydd Mr Meredydd yn Olygydd BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru 2 ac yn goruchwylio cylchgrawn ar-lein BBC Cymru Fyw.
Ymunodd â BBC Radio Cymru yn 1992 fel ymchwilydd ac ers hynny mae wedi cyflwyno ar Radio Cymru a Radio Cymru 2 ac wedi bod yn gynhyrchydd ac uwch gynhyrchydd.
Mae wedi bod yn Olygydd Dros Dro ar Radio Cymru ers mis Ebrill ac mae'n olynu Rhuanedd Richards fel Pennaeth Gwasanaethau Radio ac Ar- lein wedi iddi hi gael ei phenodi yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau a Rhaglenni BBC Cymru.
Yn wreiddiol o Lanrug, mae Dafydd yn byw yng Nghaerdydd gyda'i deulu.
'Cyfle i arloesi'
Wrth ymateb i'w benodiad dywedodd Dafydd Meredydd: "O wrando'n foreol yng nghegin fy rhieni yn Llanrug ar ddiwedd 70au'r ganrif ddiwethaf, i gael y fraint o gyflwyno a gweithio gyda thimau cynhyrchu'r orsaf am chwarter canrif a mwy, mae Radio Cymru wedi bod yn drac sain i fy mywyd ac yn agos iawn at fy nghalon.
"Mae'r cyfle hwn i arwain y gwasanaeth, ynghyd â Radio Cymru 2 a gweithio gyda thîm gwasanaeth ar-lein Cymru Fyw yn un cyffrous tu hwnt.
"Mae'r flwyddyn a hanner heriol ddiwethaf wedi dangos pa mor bwysig yw gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru i'r gynulleidfa, wrth iddynt droi atom am wybodaeth, am gwmni, ac am gysur.
"Bydd y blynyddoedd nesaf yn gyfle nid yn unig i ddiolch am deyrngarwch y gynulleidfa trwy ddarparu'r gwasanaeth gorau posib, ond hefyd yn gyfle i arloesi ac estyn allan i gynulleidfaoedd newydd ym mhob rhan o Gymru."
Wrth groesawu'r penodiad, dywed Rhuanedd Richards Cyfarwyddwr Rhaglenni a Gwasanaethau BBC Cymru: "Mae Dafydd yn angerddol am gynulleidfaoedd Cymraeg BBC Cymru ac mae'n uchelgeisiol tu hwnt am ein gwasanaethau radio ac ar-lein.
"Yn llais adnabyddus ar Radio Cymru ac yn fwy diweddar ar Radio Cymru 2, mae hefyd wedi profi ei fod yn arweinydd gwych ac mae ganddo weledigaeth gyffrous a chreadigol i'r orsaf. "
Bydd Dafydd yn cychwyn ei swydd ym mis Medi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2018