Gwlad yr Haf yn trechu Morgannwg mewn gêm fer yn sgil y glaw

  • Cyhoeddwyd
Colin Ingram a welir yma mewn gêm arall oedd sgoriwr uchaf MorgannwgFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Colin Ingram a welir yma mewn gêm arall oedd sgoriwr uchaf Morgannwg

Fe wnaeth y glaw gwtogi gêm ugain pelawd Vitality Blast Morgannwg yn erbyn Gwlad yr Haf i saith pelawd nos Wener.

Gwlad yr Haf oedd wrth y llain gyntaf gan ddechrau yn ddigon gwantan wrth golli pedair wiced am bymtheg rhediad yn unig.

Ond yna fe lwyddodd y batwyr canol i dawelu'r storm a dechrau sgorio'n gyson.

Erbyn diwedd y batiad roedd gan Wlad yr Haf 75 am 6. Tom Able oedd y sgoriwr uchaf gyda 26 rhediad.

Dechrau ddigon siomedig a gafodd Morgannwg hefyd wrth i Sam Northeast gael ei ddal gan y ceidwad wiced ar ei belen gyntaf.

Ond fe sgoriodd Colin Ingram chwech ar ei ergyd gyntaf ac yna chwech arall ar ei drydedd ergyd.

Prin oedd arhosiad y batwyr eraill ac fe gafodd pedair wiced eu colli yn y bedair belawd gyntaf.

Roedd bowlwyr Gwald yr Haf yn cyfyngu batwyr Morgannwg yn gyson ac roedd yn rhaid i Forgannwg sgorio chwech gyda phum pelen olaf y gêm i ennill.

Daeth y gêm i ben gyda Morgannwg yn sgorio 59 am 6 wiced - Colin Ingram oedd y sgoriwr uchaf gyda 37 rhediad.

Mae'r canlyniad yn golygu na fydd Morgannwg yn rownd wyth olaf y gystadleuaeth.

Pynciau cysylltiedig