'Un o'r sefyllfaoedd mwyaf enbyd i mi fod ynddo'

  • Cyhoeddwyd
Darren SaundersFfynhonnell y llun, Darren Saunders
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr amodau'n "ddrwg iawn", medd Darren Saunders, sydd â chryn brofiad ar y môr

Mae Cymro oedd ymhlith 16 o rwyfwyr a gafodd eu hachub ym Môr Iwerddon wrth gymryd rhan yn yr hyn sy'n cael ei disgrifio fel "ras rwyfo fwyaf heriol y byd" wedi disgrifio sut y collodd y criw reolaeth wrth i'r tywydd waethygu.

Roedd Darren Saunders o'r Fenni'n perthyn i un o dri chriw a aeth i drafferthion rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon, mewn digwyddiadau gwahanol, dros y penwythnos.

Roedd y criwiau wedi gadael Llundain ar 12 Mehefin ar ddechrau'r GB Row Challenge, gyda'r bwriad o rwyfo dros 2,000 o filltiroedd o amgylch Prydain a chasglu data amgylcheddol.

Ond bu'n rhaid i'r gwasanaethau brys achub y tri chriw yn eu tro - yr unig griwiau oedd yn cymryd rhan yn yr her - gan gludo.

Yn ôl Mr Saunders, dyma "un o'r sefyllfaoedd mwyaf enbyd" iddo ei brofi.

Ffynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau Gwylwyr y Glannau o un o'r cychod yn cael eu hachub oddi ar arfordir Larne yn Sir Antrim

Bu'n rhaid tywys un o'r cychod, oedd â phum person arno, i Aberdaugleddau wedi niwed i'r llyw tua hanner nos nos Wener.

Fe gollodd cysylltiad â'r lan nos Wener, 42 o filltiroedd môr o Benrhyn Santes Ann yn Sir Benfro, ond doedd dim angen cymorth meddygol ar y rhwyfwyr.

Aeth yr ail griw, oedd â chwech o aelodau, i drafferthion yn ystod tywydd tymhestlog yn gynnar nos Sadwrn a'u cludo gan yr RNLI i Sir Antrim.

Bu'n rhaid achub y trydydd criw o bump ddydd Sul a'u tywys i Ardglass yn Sir Down. Roedden nhw wedi methu parhau i rwyfo er iddyn nhw lwyddo i droi'r cwch yn ôl i fyny ar ôl iddo droi drosodd yn y môr.

Disgrifiad o’r llun,

Y cwch a gafodd ei dywys i Ardglass yn Sir Down

"Roedden ni wedi bod yn cadw golwg ar y tywydd," meddai Mr Saunders.

"Roedd popeth yn digwydd fel roedden ni wedi ei ddisgwyl ac roedden ni'n ymdopi. Yna fe waethygodd y storm ac fe wnaethon ni golli rheolaeth ar y llyw.

"Roedden ni'n drifftio gyda'r llanw... ble bynnag roedd y llanw a'r gwynt yn ein sgubo, dyna ble roedden ni'n mynd.

Amodau 'drwg iawn'

"Roedden ni mewn cysylltiad cyson gyda Gwylwyr y Glannau, ac fe wnaethon ni'n penderfyniad i'n tynnu o'r cwch cyn inni daro arfordir Yr Alban.

"Yn nhermau'r dŵr agored ac amodau morol, dyma fwy neu lai un o'r sefyllfaoedd mwyaf enbyd i mi fod ynddo.

"Naethon ni lwyddo i ddal ati, fel tîm, ond yn bersonol, roedd yr amodau yn ddrwg iawn."

Ffynhonnell y llun, Darren Saunders
Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren Saunders yn ddiolchgar i'r gwirfoddolwyr y bad achub

Roedd yn llawn canmoliaeth i griw bad achub "rhagorol" a'u cludodd i Sir Antrim.

"Daethon nhw i gyd allan, pob un yn wirfoddolwyr - mae eu dynoliaeth yn fy syfrdanu.

"Rydyn ni gyd wedi derbyn dillad, bwyd a thŷ i aros ynddo am y tro. Maen nhw wirioneddol wedi ein helpu."

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau bod yr amodau yn y môr wedi bod "yn arbennig o arw" dros y penwythnos.

Ychwanegodd bod yr hyn a ddigwyddodd i'r rhwyfwyr yn amlygu bod "hyd yn oed y morwyr mwyaf profiadol, sydd wedi paratoi'n dda, yn gallu mynd i drafferthion mewn tywydd o'r fath".

Pynciau cysylltiedig