Morgannwg yn trechu Sir Gaerwrangon gydag ail fatiad gwych

  • Cyhoeddwyd
Colin IngramFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Colin Ingram oedd y seren i Forgannwg yn yr ail fatiad, gyda 102 o rediadau

Llwyddodd Morgannwg i drechu Sir Gaerwrangon o dair wiced ym Mhencampwriaeth y Siroedd gyda pherfformiad gwych yn eu hail fatiad yn New Road.

Yn eu batiad cyntaf llwyddodd y tîm cartref i gyrraedd cyfanswm addawol o 271, gydag Ed Barnard yn serennu gyda 131 o rediadau.

Ymateb digon tila fu gan Forgannwg gyda chyfanswm o 139, wrth i Edward Byrom sgorio 57 o'r rhediadau hynny, a Joe Leach yn cymryd chwe wiced i Sir Gaerwrangon.

Fe lwyddodd yr ymwelwyr i gyfyngu Sir Gaerwrangon i 199 o rediadau yn eu hail fatiad, gyda Michael Neser yn cymryd pedair wiced.

Gosodwyd targed uchelgeisiol o 332 o rediadau am y fuddugoliaeth i Forgannwg felly, a diolch i berfformiadau gwych gan Colin Ingram (102) a Billy Root (99 heb fod allan), fe gyrhaeddon nhw'r targed hwnnw gyda thair wiced yn weddill.

Pynciau cysylltiedig