Disgwyl i stormydd o daranau daro Cymru ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd
mapFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng hanner dydd a 22:00

Mae disgwyl i stormydd o daranau daro rhannau helaeth o Gymru ddydd Iau.

Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng hanner dydd a 22:00.

Yr unig sir yng Nghymru nad sydd o dan orchudd y rhybudd melyn ydy Ynys Môn.

Bydd cawodydd trwm yn datblygu drwy'r bore gyda stormydd mellt a tharanau mewn mannau yn ystod y prynhawn a gyda'r nos.

Pynciau cysylltiedig