Beth ydy barn y cyhoedd am ymadawiad Boris Johnson?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Celwyddgi yw e!': Yr ymateb i ymddiswyddiad Boris Johnson

Mae barn y cyhoedd am y Ceidwadwyr yn bendant yn gymysg yng Nghymru, ond mae'n amlwg fod pawb yn cytuno ar un pwnc.

Mae hi'n amser i Boris Johnson adael fel Prif Weinidog y DU.

Wedi bron i dair blynedd wrth y llyw mae wedi ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr, a bydd yn gadael fel prif weinidog wedi i'r blaid ddewis olynydd.

Mae ein gohebwyr wedi bod yn holi'r cyhoedd ar hyd a lled Cymru am eu barn am ei ymadawiad, ac roedd y farn honno'n unfrydol.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae angen cael rhwyun mwy cadarn nawr yn lle Boris a symud 'mlaen o fan 'ny," meddai Geraint James

Dywedodd Geraint James, 50, o Drefdraeth yn Sir Benfro, ei fod wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf, ac y bydd yn parhau i bleidleisio drostyn nhw.

"Roedd hi'n anorfod bod e yn gorfod 'neud y penderfyniad nawr achos bod pethau wedi mynd yn drech, ac yn effeithio ar weddill y blaid," meddai.

"Mae nifer ohonyn nhw yn gweithio'n galed a gallai hwn achosi mwy o annibendod i'r blaid ac i'r wlad os byddai pethau yn cario 'mlaen.

"Dylai e fynd nawr achos mae aros yn golygu achosi mwy o ansicrwydd i'r economi a'r wlad yn gyffredinol.

"Sai'n credu bod angen etholiad cyffredinol - mae'n mynd i greu mwy o ansicrwydd drwy'r wlad. Mae angen cael rhywun mwy cadarn nawr yn lle Boris a symud 'mlaen o fan 'ny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sylvia James, o Gaerfyrddin ond bellach yn byw ym Mhortiwgal, yn "falch o weld e'n mynd"

"Ma' plant 'da fi 'ma, felly fi'n falch o weld e'n mynd," meddai Sylvia James o Gaerfyrddin, ond sydd bellach yn byw ym Mhortiwgal.

"Ond pwy sy'n dod yn lle fe? Dyna'r broblem arall. Oes rhywun arall yn well 'na fe?

"Fe wnaeth e shwt mess gyda Brexit... wedyn 'nath e'r mess rhyfedda' o'r pandemig. Mae'n neis i weld e'n mynd.

"Mae wedi gweud y celwyddau rhyfeddaf. Mae pobl wedi gweld yr ochr arall ohono fe nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwion Ifan yn credu fod angen Etholiad Cyffredinol arall

Dywedodd Gwion Ifan, 20, o Landysul ei fod wedi pleidleisio dros Blaid Cymru yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf, ac mae eisiau gweld Etholiad Cyffredinol.

"Mae e wedi 'neud y penderfyniad cywir nawr i fynd er bod e braidd yn hwyr yn fy marn i, ond doedd dim lot o ddewis arall gyda fe.

"Y peth gorau yn amlwg yw iddo fe adael nawr - dyna be sy'n boblogaidd ymysg y cyhoedd dwi'n credu.

"Ond tu ôl y llen, falle bod hi'n anoddach iddo fe adael yn gynt na beth y'n ni'n disgwyl.

"Dyna beth yw democratiaeth ar ddiwedd y dydd, bod y cyhoedd yn cael dewis.

"Newydd weld nawr bod Boris yn mynd i ddewis ei gabinet ei hunan cyn iddo adael. Dwi'n credu byddai'n well os mae'r cyhoedd yn cael dewis drwy etholiad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys Jones eisiau gweld menyw gref yn olynu Boris Johnson

Un oedd yn falch i glywed am ymddiswyddiad Boris Johnson oedd Carys Jones o Gaerfyrddin: "Brilliant! Newyddion gorau'r dydd!

"Mae e'n gelwyddgi, does dim tamaid o egwyddor gyda fe a mae e'n meddwl bod e'n well 'na ni i gyd. Beth mae e'n anghofio yw ni sy'n talu ei gyflog e a mae e fod yn atebol i ni.

"Mae e'n meddwl bod e'n uwch 'na 'ny. Ar ôl hynny [Brexit], mae e wedi bod yn dda i ddim.

"Dathlu? O! Bydda i'n jwmpo ar hyd y lle i gyd. Ond pwy ddeith yn ei le fe? Dyna'r broblem."

Ychwanegodd Carys fod angen menyw gref i gymryd lle Mr Johnson.

"Menyw gryf achos ni fenywod sy'n rhedeg y byd hyn, 'se'r dynion ond yn gwybod. Tu ôl bob dyn, mae menyw dda, menyw gryf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Amy Convery a Jack Cotterill yn gweithio yn siop Hiatus yn Abertawe

Dywedodd un o weithwyr siop Hiatus yn Abertawe, Amy Convery, 32, fod "yr holl beth yn teimlo fel distraction, yn hytrach nag delio â'r materion sy'n rhaid delio gyda nhw er lles y wlad".

"Dyw e byth yn teimlo fel bod e ar ein cyfer ni, mae e wastad am eu byd bach gwleidyddol nhw - dyna beth sy'n dod gyntaf iddyn nhw. Mae e'n eithaf trist rili."

Ychwanegodd Jack Cotterill, 44, sydd hefyd yn gweithio yn siop Hiatus, fod y dyddiau diwethaf wedi bod yn "enghraifft ofnadwy o ddemocratiaeth".

"Mae angen arweinydd sy'n arwain drwy esiampl.

"Ni allai hyn fod wedi digwydd ar amser gwaeth, pan mae angen arweinydd cadarn oherwydd ein bod mewn cyfnod mor ansicr yn economaidd ac o ran diogelwch.

"Dylai fod wedi ymddiswyddo'n gynharach i ganiatáu i bethau sefydlogi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie Lee hefyd yn credu ei bod yn amser i Boris Johnson fynd

Ychwanegodd Sophie Lee, 31: "Mae'n amser iddo fo fynd".

"Does gennai ddim lot o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ond gyda'r holl newyddion, dwi'n credu y dylai e fynd.

"Mae'n un peth ar ôl y llall gyda fe, ac yn gosod esiampl ddrwg, felly dylai e fynd - does dim pwynt iddo frwydro."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Margaret wedi prynu cacennau i ddathlu ar ôl cyhoeddiad y bydd Boris Johnson yn gadael

Dywedodd Margaret o Ben-y-bont ar Ogwr: "Dwi newydd brynu dwy gacen hufen ffres, a ga'i nhw nes 'mlaen heno hefo bach o win i ddathlu.

"Maen nhw i gyd wedi'u taenu hefo'r un brwsh. Y cynharaf rydym yn cael etholiad, y gorau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tony a Meryl o Bontycymer yn credu y dylai Mr Johnson adael yn syth

Yn ôl Tony a Meryl o Bontycymer mae'n "hen bryd" iddo fynd.

"Ddylai fe wedi mynd misoedd yn ôl. Dydy o ddim wedi gwneud dim byd.

"Fe yw'r celwyddgi mwyaf i ni gael yn y llywodraeth.

"Yr unig beth mae e wedi gwneud ydy dweud celwydd ar ôl celwydd ar ôl celwydd.

"Dylai e adael heddiw - nid disgwyl tan yr hydref. Allan o Downing Street heddiw ac etholiad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Yn anad dim, rydw i eisiau diolch i chi, y cyhoedd ym Mhrydain, am y fraint aruthrol rydych chi wedi'i rhoi i mi," meddai Johnson

Un arall sy'n credu ei fod yn hen bryd i Boris Johnson ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr yw Malcolm Hill o Ogledd Corneli ym Mhen-y-bont.

"Mae e'n gelwyddgi sy'n twyllom ac mae'n wallgof. Rwy'n deall pam ei fod yn aros nes yr hydref oherwydd bod gyda ni wyliau'r haf.

"Hoffwn weld Rishi Sunak yn cymryd drosodd ond dydw i ddim yn Tory, mae'n rhaid iddynt wneud rhywbeth i ddelio â chostau byw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Keith Evans fod Mr Johnson yn gorfod mynd, er ei fod yn hoff ohono

Dywedodd Keith Evans o Gaerfyrddin ei fod yn hoff o Boris Johnson ond fod y sgandal ddiweddara' yn golygu fod yn rhaid iddo adael.

"Roeddwn i'n meddwl ei fod yn gymeriad ac yn ddyn dewr," meddai.

"Fe wnaeth e gael Brexit wedi'i gyflawni, ac mae'n rhaid bod Covid wedi bod yn anodd.

"Ond honiad [Chris] Pincher... dyna oedd yr eisin ar y gacen. Roedd rhaid iddo fo fynd."

Disgrifiad o’r llun,

"Chi ddim fod gweud celwyddau," meddai Janet Gibbon

"Mae'n hen bryd bod e'n mynd. Mae mor syml â 'na. Chi ddim fod gweud celwyddau," meddai Janet Gibbon o Gefneithin.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sarah Hughes fod y sgandal am bartïon yn Rhif 10 wedi suro ei barn o Boris Johnson

Ychwanegodd Sarah Hughes o Gaerfyrddin: "I fi yr holl gelwyddau am y partïon oedd e, yn dweud fod e heb fynychu'r partïon pan oedd e wedi.

"Fe wnaeth e ddangos dewrder ddoe yn brwydro yn y Senedd, felly roeddwn yn teimlo drosto, ond roedd yn rhaid iddo fynd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mary Howells ei bod yn troi'r teledu i ffwrdd pan fo Boris Johnson yn dod ymlaen

Dywedodd Mary Howells o Dymbl na fydd hi'n colli Boris Johnson.

"Bydda i ddim yn gweld eisiau fe o gwbl. Mae e fel crwt bach fan 'na yn acto. Mae e'n gweud celwydd.

"Chi ddim yn gallu gwrando ar beth mae e'n ddweud hanner yr amser nawr. Ni'n troi'r televisionoff nawr."

Disgrifiad o’r llun,

"Fi ffaelu credu bod e wedi aros 'mlaen mor hir," meddai Llŷr Roberts o Gaerfyrddin

Pwysleisiodd Llŷr Roberts, o Gaerfyrddin y bydd angen "rhywun gyda bach mwy o morals ac ethics fi'n credu" i redeg y wlad.

"Fi ffaelu credu bod e wedi aros 'mlaen mor hir i ddweud y gwir. Mae'n amser iddo fe fynd fi'n credu.

"Y ffordd mae'n bihafio, y pethau mae e'n dod bant ag e. Sai'n credu mai fe yw'r person gorau i redeg y wlad."