'Rhyfeddol' fod Robert Buckland wedi derbyn swydd Ysgrifennydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae un o Aelodau Seneddol Llafur wedi disgrifio penderfyniad Syr Robert Buckland i dderbyn swydd Ysgrifennydd Cymru fel un "cwbl ryfeddol".
Mae Aelod Seneddol De Swindon yn olynu Simon Hart, wedi iddo ymddiswyddo nos Fercher yn sgil ei anfodlonrwydd, ymhlith eraill, ag arweinyddiaeth Boris Johnson.
Yn ôl gohebydd seneddol y BBC, Ione Wells, doedd ASau sy'n cynrychioli etholaethau yng Nghymru ddim yn fodlon derbyn y swydd.
Dywed Syr Robert ei fod wedi derbyn y swydd gan fod Mr Johnson wedi ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr.
Ond mae Jo Stevens, yr Ysgrifennydd cysgodol ar gyfer Cymru, wedi beirniadu penderfyniad Syr Robert yn chwyrn.
Arferai Syr Robert, a gafodd ei eni yn Llanelli, fod yn ysgrifennydd cyfiawnder rhwng Gorffennaf 2019 a Medi 2021 cyn iddo orfod gadael wedi i Mr Johnson newid ei gabinet.
Bydd y gweinidogion newydd, sydd wedi cael eu penodi yr wythnos hon, yn parhau yn eu swyddi tan bod arweinydd newydd y Ceidwadwyr yn cael ei benodi.
Wrth siarad ar Radio 4 dywedodd Syr Robert na fyddai wedi gweithredu yng nghabinet Johnson ond gan ei fod wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad fore Iau "roeddwn i'n teimlo y gallwn ddychwelyd a helpu'r wlad", meddai.
Dywed Jo Stevens AS Canol Caerdydd: "Dwi'n meddwl ei bod hi'n gwbl ryfeddol bod pobl a ddywedodd ddydd Mercher nad oeddynt yn barod i gael Boris Johnson fel arweinydd bellach yn fodlon gweithredu yn ei lywodraeth - boed fel aelod o gabinet neu ar y fainc flaen.
"Sut mae modd newid meddwl pan mai'r un person sydd wrth y llyw - yr un person a ddywedoch yn gynharach nad oedd yn gymwys i arwain y wlad?"
Wrth ymgymryd â'r gwaith o fod yn Ysgrifennydd Cymru dywed Syr Robert ei fod yn "Undebwr balch" a'i fod yn "fraint bod yn Ysgrifennydd Cymru gan fy mod yn awyddus i gadw'r Deyrnas Unedig".
"Rwyf am sicrhau bod gwaith Swyddfa Cymru yn parhau," meddai.
"Rwy'n Gymro balch, mae gen i nifer o gysylltiadau â Chymru, rwyf wedi cael fy ngeni a'm magu ac wedi gweithio yng Nghymru am flynyddoedd.
"Rwy'n credu bod yna lawer yn digwydd ar hyn o bryd gyda'r Cronfeydd Ffyniant sydd ar fin cael eu cyhoeddi - byddaf yn sicrhau bod rheina yn gweithredu yn ôl y disgwyl - mae'n rhaid i'r gwaith yna ddigwydd nawr.
"Ry'n yn sôn am fywydau pobl ac am gyfleoedd yng Nghymru."
Ychwanegodd Syr Robert fod ganddo brofiad helaeth o wneud gwaith llywodraethol yng Nghymru fel cyfreithiwr cyffredinol ac yna arglwydd ganghellor "yn delio â'r system gyfiawnder yng Nghymru".
"Mae'r wlad dal angen llywodraeth," meddai, "ac mae'r prif weinidog yna nes bod olynydd yn cael ei ethol.
"Ein dyletswydd ni nawr yw bod yn ofalwyr a sicrhau bod gwaith y llywodraeth yn parhau."
Pwy yw Syr Robert Buckland?
Robert Buckland fydd y chweched Ceidwadwr i fod yn Ysgrifennydd Cymru ers 2010.
Cafodd ei eni yn Llanelli yn 1968 gan fynychu ysgol breifat yn y dref.
Wedi graddio ym Mhrifysgol Durham fe ddychwelodd Syr Robert i weithio yng Nghaerdydd ym maes cyfraith trosedd ac roedd yn fargyfreithiwr.
Yn 1997, fe briododd â Sian wedi iddyn nhw gwrdd yn y brifysgol. Mae ganddynt efeilliaid - Millicent a George - ac maen nhw'n byw yn Wroughton, ger Swindon.
Mae Syr Robert yn Aelod Seneddol ers 2010 a hynny wedi iddo ennill sedd De Swindon - roedd eisoes wedi sefyll mewn etholaethau yng Nghymru ond heb lwyddiant.
Yn ystod cyfnod David Cameron wrth y llyw roedd yn gyfreithiwr cyffredinol ar gyfer Cymru a Lloegr.
Yng Ngorffennaf 2019 ymunodd â chabinet Boris Johnson fel arglwydd ganghellor ac ysgrifennydd cyfiawnder ond yn 2021 fe gollodd ei le yn y cabinet a daeth Dominic Rabb yn ei le.
Y gred yw y bydd datganoli grym yn rhan bwysig o'r trafodaethau yn ei swydd newydd.
Mae llywodraeth Mr Johnson eisoes wedi dweud na fydd pwerau am gyfraith a threfn yn cael eu trosglwyddo i Gaerdydd.
Dyw perthynas Cymru a San Steffan ddim wedi bod yn un hynod o dda yn ddiweddar er bod Simon Hart yn dweud ei fod yn gyrru ymlaen yn dda gyda'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, a'i weinidogion.
Wythnos yn ôl roedd cryn anniddigrwydd wrth i Lywodraeth y DU geisio diddymu cyfraith Cymru ar streicio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2022