Geraint Thomas yn codi i'r trydydd safle yn y Tour de France

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas ddaeth yn bumed ar y cymal cyntaf yn y mynyddoedd ddydd Gwener

Mae'r Cymro Geraint Thomas wedi codi i'r trydydd safle yn y Tour de France ar ôl gorffen yn bumed ar y seithfed cymal ddydd Gwener.

Ar y brig mae Tadej Pogačar wedi ymestyn ei fantais i 35 eiliad ar ôl ennill y cymal cyntaf yn y mynyddoedd - yr ail gymal yn olynol i'r gŵr o Slofenia.

Jonas Vingegaard, a ddaeth yn ail yn y cymal ddydd Gwener i La Super Planche des Belles Filles, sydd yn yr ail safle yn y dosbarthiad cyffredinol.

Mae Thomas funud a 10 eiliad tu ôl i Pogačar, gyda'i gyd-seiclwr yn nhîm Ineos Grenadiers, Adam Yates, wyth eiliad ymhellach ar ei hôl hi.

Bydd y Tour yn gorffen ym Mharis ar 24 Gorffennaf, gan olygu fod dros bythefnos eto i fynd.

Dosbarthiad cyffredinol wedi 7 o 21 cymal

  1. Tadej Pogačar (UAE Team Emirates) - 23 awr, 43 munud a 14 eiliad

  2. Jonas Vingegaard (Jumbo-Visma) - +35 eiliad

  3. Geraint Thomas (Ineos Grenadiers) - +1 munud, 10 eiliad

  4. Adam Yates (Ineos Grenadiers) - +1'18"

  5. David Gaudu (Grouparma-FDJ) - +1'31"

Pynciau cysylltiedig