Dicter bod dim ad-daliad wedi i ganwr dynnu'n ôl
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o bobl a aeth i ŵyl yng Nghastell Caerdydd wedi beirniadu trefnwyr am beidio â chynnig ad-daliadau wedi i brif berfformiwr y digwyddiad, y canwr Rag 'n' Bone Man orfod tynnu'n ôl am resymau iechyd.
Craig David, gyda'i sioe TS5, wnaeth lenwi'r bwlch nos Sadwrn ar ddiwedd gŵyl undydd Depot in the Castle.
Ond mae eraill wedi dweud eu bod wedi mwynhau'r digwyddiad, oedd hefyd yn cynnwys perfformwyr fel Melanie C a Toploader, er y siom bod Rag 'n' Bone Man yn absennol.
Dywedodd trefnwyr mai gŵyl oedd y digwyddiad yn hytrach na chyngerdd Rag 'n' Bone Man, bod pobl yn gwybod bod newidiadau'n bosib, a bod dim modd cynnig ad-daliadau.
'Dylien nhw gynnig rhywbeth'
"Rwy'n deall bod pobl yn mynd yn sâl, ond rwy'n teimlo y dylien nhw gynnig rhywbeth, boed yn ad-daliad rhannol neu ddisgownt ar gyfer digwyddiad arall," meddai Jane Massey, o Donypandy, Rhondda Cynon Taf.
Fe archebodd ei thocyn pan mai Rag 'n' Bone Man oedd yr unig artist oedd wedi ei gadarnhau ar gyfer y digwyddiad, ac mae'n teimlo bod angen rhoi ystyriaeth i bobl a dalodd i fod yna ar y sail hwnnw.
Gan fod plant yn cael mynd i'r digwyddiad, a'i fab 10 oed Dan yn hoff iawn o gerddoriaeth Rag 'n' Bone Man, fe drefnodd Mark Sadler, o Gasnewydd, i fynd ag e i'w gyngerdd cyntaf erioed, ond fe gafodd siom.
"Mae e'n caru Rag 'n' Bone Man a rwyf inna'n hoff o [un o'r prif berfformwyr eraill] Faithless DJ felly roedd e'n rhywbeth i'r ddau ohononi ni," dywedodd.
"Iawn, fe wnaethon nhw ffeindio rhywun i lenwi'r bwlch ond wnaethon nhw ddim cynnig arian yn ôl."
'Dal yn brofiad gwych'
Dywedodd eraill wrth dudalen Facebook BBC Wales News eu bod yn siomedig, ond bod y newid ddim yn gymaint â hynny o broblem.
"Ro'n i bach yn siomedig ond roedd yn dal yn brofiad gwych," meddai un. "Ges i ddiwrnod a noson ardderchog, a da iawn Craig David [am berfformio] ar fyr rybudd.
"Talu wnaethon ni i weld Rag 'n' Bone Man yn bennaf, ond s'dim help bod e'n sâl."
Dywedodd atebwr arall bod pawb yn derbyn yr amodau a'r telerau wrth archebu tocyn. "Mae'n anffodus ac mae e yn digwydd ond fe weithion nhw ddydd a nos i drefnu perfformiwr arall," meddai.
"Weles i lawer o bobl yn mwynhau'r digwyddiad, y tywydd, bod 'da ffrindie..."
Dywedodd y trefnwyr ar Facebook eu bod yn siomedig eithriadol na allai Rag 'n' Bone Man berfformio, wedi iddo gael "gorchymyn doctor llym" yn sgil haint gwddf.
Mewn ymateb i'r feirniadaeth dros wrthod cynnig ad-daliadau, dywedodd llefarydd mai gŵyl gydag amrywiaeth o berfformwyr oedd y digwyddiad, "nid cyngerdd Rag 'N' Bone Man".
Ychwanegodd llefarydd: "Fe wnaethon ni droi pob carreg i lenwi'r bwlch... ar yr unfed awr ar ddeg. Fe wnaeth Craig David a'i dîm roi sioe syfrdanol ymlaen i ni."
Dywedodd bod bron i 9,000 o bobl wedi mynd i'r digwyddiad, ac mai ychydig iawn o docynnau oedd heb eu defnyddio.
Pwysleisiodd hefyd bod y cyhoedd wrth brynu tocyn yn cytuno â'r termau ac amodau sy'n datgan bod newidiadau i'r arlwy'n bosib.
"Nid ydym o'r herwydd yn gallu rhoi ad-daliadau ar sail y newid ddoe," dywedodd.