Rhybudd i nofwyr dros algâu Llyn Tegid, Y Bala
- Cyhoeddwyd
![Llyn Tegid](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5274/production/_125880112_01fb580b-f635-48ef-8a49-fe002cc4edd4.jpg)
Mae rhybudd i ymwelwyr i lyn poblogaidd yng Ngwynedd ar ôl i algâu niweidiol gael ei ddarganfod.
Dywedodd Parc Cenedlaethol Eryri bod yr algâu gwyrddlas wedi ei weld yn Llyn Tegid, Y Bala.
Mae'r llyn yn boblogaidd ar gyfer nofio a chwaraeon dŵr, ond mae'r awdurdodau'n rhybuddio rhag dod i gysylltiad gyda'r algâu.
Mae'r algâu yn ffurfio'n naturiol, ond mae'n gallu achosi brech, salwch, poen llygaid neu boen yn y cyhyrau os caiff ei lyncu.