Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth ym Mhrestatyn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Trafnidiaeth yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth wedi i ddyn farw ar reilffordd ger Prestatyn.
Cafodd plismyn eu galw i gyrion Clwb Golff Prestatyn am 17:10 ar 13 Gorffennaf wedi adroddiad bod rhywun wedi'i anafu ar y trac ond roedd y dyn, 40, wedi marw yn y fan a'r lle.
Wedi'r digwyddiad mae dyn, 47 o Fanceinion, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a bydd yn cael ei holi gan dditectifs.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Granville Sellers: "Ry'n yn derbyn bod hyn yn sioc i'r gymuned leol ond yn pwysleisio mai cam cyntaf yr ymchwiliad yw hyn.
"Ry'n yn parhau i gadw meddwl agored am farwolaeth y dyn.
"Yr hyn ry'n yn ei wybod yw bod y ddau ddyn yn adnabod ei gilydd.
"Ry'n yn meddwl am anwyliaid y dyn sydd wedi marw - maen nhw yn cael cymorth arbenigol gan swyddogion.
"Ry'n yn apelio ar unrhyw un a fu'n dyst i rywbeth cyn y digwyddiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â ni."