Y cyn-chwaraewr rygbi Gary Samuel wedi marw yn 78 oed
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-fewnwr a hyfforddwr Caerdydd, Gary Samuel wedi marw yn 78 oed yn dilyn cyfnod byr o salwch.
Mewn datganiad, dywedodd Rygbi Caerdydd, dolen allanol eu bod wedi'u "tristáu'n fawr" o glywed y newyddion.
Yn wreiddiol o Ddyffryn Aman, chwaraeodd dros glwb y brifddinas rhwng 1965 ac 1976 cyn mynd ymlaen i'w hyfforddi.
Fe wnaeth 112 o ymddangosiadau dros Gaerdydd gan sgorio 13 cais, ac roedd hefyd yn aelod o daith gyntaf y clwb dramor - i Dde Affrica yn 1967.
Yn fwy diweddar, bu'n gyfrannydd cyson i BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw.
Mae'n gadael ei wraig, Bethan, a'u mab, Rhodri.