Cynllun £2.9m Cyngor Gwynedd i gryfhau addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cynllun £2.9m er mwyn ehangu cyfleusterau trwytho'r Gymraeg i blant y sir.
Mi fydd y cynllun hefyd yn darparu cyllid er mwyn cynyddu capasiti rhai o ysgolion Gwynedd er mwyn diogelu addysg Gymraeg yr ardaloedd hynny.
Nod y cyngor ydy creu cynllun "fwy uchelgeisiol fyth" wrth ddatblygu addysg Gymraeg y sir, a sicrhau bod gan deuluoedd sy'n symud i'r ardal ddigon o gyfleoedd i ddysgu'r iaith.
Yn ôl Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd "mae'r ddarpariaeth wedi bod yn arloesol" ond "nid da lle gellir gwell".
Mae miloedd o blant wedi mynychu'r canolfannau iaith ers iddyn nhw agor yng Ngwynedd bron i 40 mlynedd yn ôl.
Nod y canolfannau yw ymdrochi disgyblion sy'n newydd i'r sir yn y Gymraeg, a'u helpu i ddod yn rhan o gymuned ddwyieithog.
Ond mae'r bwriad o ehangu'r ddarpariaeth yn dro pedol sylweddol o'r sefyllfa yn 2018, pan roedd y cyngor yn cysidro cau un o'r pum canolfan oedd yn bodoli ar y pryd.
Gan feio'r angen i wneud toriadau o thua £96,000, fe wrthwynebwyd y cynlluniau'n chwyrn gan ymgyrchwyr iaith.
O ganlyniad fe benderfynwyd gohirio'r toriadau cyn i gyllideb newydd o Fae Caerdydd gychwyn y broses o ehangu'r gwasanaeth sydd ar gael.
Yn 2021 derbyniwyd cyllideb gan Lywodraeth Cymru i sefydlu canolfannau o'r newydd ym Mangor a Thywyn, a hefyd symud y ddarpariaeth bresennol o Benrhyndeudraeth i Borthmadog.
Ond tra bod y gwaith o'u sefydlu yn parhau, mae'r cyngor bellach yn derbyn cymeradwyaeth amlinellol am £1.1m arall o Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg.
'Cyfundrefn gyfoes'
"Be da ni isio 'neud ydy sicrhau bod gennym ni gyfundrefn gyfoes sy'n cyd-fynd 'efo'r cwricwlwm newydd", meddai Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd, Garem Jackson.
"Mi fydd ein dysgwyr yn cael darpariaeth rhithwir i fyd y meta verse, y dechnoleg diweddara' ac mae'n bwysig felly bod ein canolfannau yn cael eu lleoli mewn trefi fel bod gan ein dysgwyr y cyfle i gymhathu'r sgiliau newydd."
Yn ôl Mr Jackson, newid yn y drefn o wneud ceisiadau am gyllid sydd i gyfrif am y tro pedol honedig o'i gymharu â'r bygythiadau yn 2018.
Mi fuodd Cymdeithas yr Iaith yn brwydro'n frwd yn erbyn toriadau posib i ganolfannau iaith Gwynedd yn 2018 ond mae'r mudiad wedi croesawu'r buddsoddiad diweddara' er bod pryderon dal i fod.
"Poeni ydw i am freuder y sefyllfa, cynyddu mae'r hwyrddyfodiaid a bydd angen mwy a mwy o wariant", medd Angharad Tomos ar ran Cymdeithas yr Iaith.
"Dwi'n byw yn Nyffryn Nantlle, y lle Cymreicia' o Wynedd ac mae angen mwy na dim ond arian fel hyn, teimlo ydw i bod angen tai fforddiadwy i Gymry aros yma ac mae angen gwaith.
"Mae Gwynedd wedi gwneud gwaith gwych o drochi ond mae angen mwy - mae angen gwario dwys yn y clybiau ieuenctid."
Mae'r cyngor yn gobeithio defnyddio ail ran y cyllid sydd ar gael i ymestyn y ddarpariaeth bresennol yng Nghanolfan Iaith Maesincla, Caernarfon.
Mae bwriad hefyd i gynyddu'r capasiti ymhellach drwy symud Canolfan Iaith Dolgellau o'r Ganolfan Hamdden i Ysgol Bro Idris y dref, a hefyd symud Canolfan Iaith Llangybi i Ysgol Cymerau, Pwllheli.
Creu mwy o le mewn ysgolion
Bydd yr adroddiad hefyd yn amlinellu cynllun gwerth £1.8m i gynyddu capasiti ysgolion cynradd Llanllechid, Bro Lleu a Chwilog.
Yn ôl y cyngor - gyda'r dair gymuned â dros 70% o'u poblogaeth yn siaradwyr Cymraeg - mae'n rhan o ymdrechion i greu mwy o le yn yr ysgolion ar ôl rhoi caniatâd i adeiladu mwy o dai yn y pentrefi hynny dros y blynyddoedd i ddod.
Gyda chwmni Adra wedi datblygu stad o 18 tŷ newydd yn nalgylch Ysgol Llanllechid, a chaniatâd i adeiladu 30 arall yn fuan, nodwyd fod yr ysgol leol bellach dros ei chapasiti gyda 243 disgybl er fod ond lle ar gyfer 213.
Mae'n sefyllfa debyg yn Ysgol Bro Lleu, Dyffryn Nantlle, ble mae 36 o dai yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, er bod 178 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol sydd â chapasiti swyddogol o 159.
Gyda chaniatâd hefyd am 39 o dai yn ardal Chwilog, mae disgwyl bydd 70 disgybl yn ysgol y pentref erbyn Medi 2022, er bod ond lle ar gyfer 65.
Bydd peth o'r gost yn dod gan gyfraniadau gan y datblygwyr fel rhan o'r broses gynllunio.
Lle i 'arloesi mwy'
Dywedodd deilydd portffolio addysg Cyngor Gwynedd, Beca Brown, bod y cynlluniau "cyffrous" yn "torri tir newydd o safbwynt addysg Gymraeg".
Cafodd ei chynnig bod y cabinet yn derbyn yr adroddiad ei basio'n unfrydol brynhawn Mawrth.
"Yn ôl data cyfrifiad 2011 roedd 92.3% o ddisgyblion Gwynedd rhwng 5-15 oed yn ein hysgolion yn siaradwyr Cymraeg - y ganran uchaf yng Nghymru o beth ffordd - ac mae hyn yn destun balchder inni," meddai.
"Ond, mae lle i wella, i arloesi mwy ac i fod yn fwy uchelgeisiol byth dros ein pobl ifanc a'n hiaith."
"Fel plentyn i rieni di-Gymraeg wnaeth symud i Wynedd, dwi'n ystyried fy hun yn hynod lwcus fod fy mam a fy nhad wedi ymgartrefu mewn sir sy'n sicrhau fod pob disgybl - beth bynnag eu cefndir - yn gallu chwarae rhan lawn yn ein cymdeithas leol.
"Mae'n wir dweud y byddai'n annhebyg y byddwn wedi bod mor ffodus pe byddent wedi symud i ran arall o Gymru.
"Fy mlaenoriaeth fel aelod cabinet yw sicrhau fod pob plentyn yng Ngwynedd yn derbyn yr un cyfleoedd ac y cefais i a, ble bynnag bosib, ein bod yn buddsoddi i gyflwyno gwelliannau pellach.
"Mae'r cynlluniau cyffrous yma yn torri tir newydd o safbwynt addysg Gymraeg yng Ngwynedd, ac yn lythrennol felly ym Mangor a Thywyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2019